Cefin Campbell AS

Cefin Campbell AS

Cyfle Gwaith: Swyddog Cymunedol i Cefin Campbell AS

Cyhoeddwyd 09/10/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/10/2023   |   Amser darllen munudau

Swyddog Cymunedol i Cefin Campbell AS

Ystod cyflog: £24,143 - £35,388 pro rata

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd cyflog uchaf y raddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37

Lleoliad: Swyddfa rhanbarthol - Caerfyrddin.

Natur y penodiad: Tymor penodol am 18 mis. 

Cyf: MBS-079-23

Diben y swydd

Rhoi cymorth i’r Aelod o’r Senedd o ran sicrhau bod gweithgarwch ymgysylltu a chyfathrebu yn digwydd â sefydliadau cymunedol ac etholwyr ar draws y rhanbarth, a chefnogi dyletswyddau gweinyddol yn y swyddfa.

Prif ddyletswyddau

1. Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, gwleidyddion eraill, y cyfryngau, lobïwyr a grwpiau pwyso

2. Datblygu a chynnal system gwaith achos, a sicrhau y caiff yr holl achosion eu cofnodi; yna, monitro eu cynnydd a sicrhau y gweithredir pob cam a nodwyd

3. Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw a bod gwybodaeth yn cael ei rheoli'n gyfrinachol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data

4. Cynnal gwaith ymchwil i faterion lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ôl y gofyn, a sicrhau bod y gwleidydd yn ymwybodol o unrhyw fater perthnasol

Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol

• Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa
• Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rheoli swyddfa brysur
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol
• Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn

Cymwysterau Hanfodol

• Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol

Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Aled.Hughes@senedd.cymru 

Dyddiad cau: 17:00,  05 Tachwedd 2023

Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau