Luke Fletcher AS

Luke Fletcher AS

Cyfle Gwaith: Swyddog Cyswllt Cymunedol i Luke Fletcher AS

Cyhoeddwyd 04/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/05/2023   |   Amser darllen munudau

Swyddog Cyswllt Cymunedol i Luke Fletcher AS

Ystod cyflog: £21,862 - £29,483 pro-rata

Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.

Oriau gwaith: 29.6 – bydd ceisiadau gan bobl sydd eisiau gweithio llai o oriau yn cael ei ystyried.

Lleoliad: Swyddfa Rhanbarthol ym Mhen y Bont ar Ogwr, weithiau Senedd Cymru

Natur y penodiad: Tymor penodol - 18 mis

Cyf: MBS-022-23

Diben y swydd:

Darparu cefnogaeth weinyddol ac etholaethol a chefnogaeth o ran cyhoeddusrwydd i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau:

1. Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, gwleidyddion eraill a'r cyfryngau

2. Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw a gwybodaeth yn cael ei rheoli'n gyfrinachol yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data

3. Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol

4. Didoli’r post sy’n dod i mewn yn ôl trefn blaenoriaeth a pharatoi atebion drafft i ohebiaeth arferol

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

• Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol
• Rhywfaint o brofiad o ddefnyddio pecynnau TG. Er enghraifft, pecynnau Microsoft fel Word, Outlook ac Excel.
• Dealltwriaeth o frwydro yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac ymrwymiad i'r rheini ac i Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan.

Cymwysterau Hanfodol

• Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
• Sgiliau rhifedd a llythrennedd amlwg e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch.

Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon

 

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Philippa.Richards@senedd.cymru 

Dyddiad cau: 17:00, 25 Mai 2023.

Dyddiad cyfweliad: I’w gadarnhau