Swyddog Digidol a Chyfathrebu i Jayne Bryant AS
Ystod cyflog: £23,440 - £34,357 pro-rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Tŷ Hywel a Swyddfa Etholaeth
Natur y penodiad: Parhaol
Cyf: MBS-015-22
Diben y swydd:
Gwneud gwaith sy'n ymwneud â materion digidol a chyfathrebu ar gyfer yr Aelod o’r Senedd yn ôl y gofyn, gan sicrhau y cynhelir safonau cyfrinachedd.
Prif ddyletswyddau:
- Cynnal presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau, cymorthfeydd ac ati ac ymateb i ymholiadau a sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol
- Chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo amcanion yr Aelod o’r Senedd a gwella ei ddelwedd gyhoeddus
- Llunio adroddiadau print ac ar-lein rheolaidd, sy'n hysbysu'r cyhoedd am y gwaith a wneir gan yr Aelod o’r Senedd
- Datblygu sianelau cyfathrebu electronig gydag etholwyr a grwpiau sy'n ymgyrchu ar faterion lleol
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad mewn amgylchedd dylunio neu ymchwil
- Profiad o ddefnyddio pecynnau TGCh e.e. pecynnau Microsoft fel Word, Outlook ac Excel a meddalwedd dylunio fel Canva.
- Dealltwriaeth o'r angen i adlewyrchu barn yr Aelod o’r Senedd mewn modd sy'n adlewyrchu cyfle cyfartal ac nad yw'n ymfflamychol, yn ansensitif, yn enllibus, yn athrodus neu'n ddifenwol
- Dealltwriaeth o'r angen i fynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac ymrwymiad iddynt, a’r gallu i weithio mewn amgylchedd sensitif
Cymwysterau Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu;
- NVQ lefel 3 neu 4
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Charlotte.Knight2@senedd.cymru
Dyddiad cau: 1 Gorffennaf 2022, 13:00
Dyddiad cyfweliad: I’w gadarnhau