Swyddog Polisi a Chyfathrebu i Alun Davies AS
Ystod cyflog: £23,440 - £34,357 pro-rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Bae Caerdydd, a Blaenau Gwent pan fo angen
Natur y penodiad: Parhaol
Cyf: MBS-088-22
Diben y swydd:
Ymgymryd â gwaith cyfathrebu, ymchwil a pholisi yn ôl y gofyn ar ran yr Aelod o’r Senedd.
Prif ddyletswyddau:
- Datblygu a chyflwyno cynllun cyfathrebu ar gyfer yr Aelod o’r Senedd.
- Ymchwilio, paratoi ac ysgrifennu datganiadau a dogfennau polisi yn ogystal â datganiadau i’r wasg a datganiadau i’r cyfryngau.
- Cynnal, rheoli a thyfu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer yr Aelod o'r Senedd gan gynnwys cynhyrchu cynnwys ar-lein fel graffeg i helpu i gyfathrebu ag etholwyr ac eraill.
- Trafod â’r Aelod o’r Senedd a’r tîm ehangach i nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i'r cyfryngau neu etholwyr.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio’n effeithiol yn y wasg ysgrifenedig, y byd darlledu neu ar-lein, neu’r sector cyfathrebu.
- Y gallu i ysgrifennu mewn modd dealladwy ac yn gyflym yn ôl terfynau amser byr.
- Dealltwriaeth o'r materion economaidd a chymdeithasol sy'n wynebu Blaenau Gwent.
Cymwysterau Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol neu;
- Cymhwyster ffurfiol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gyfwerth yn y cyfryngau neu mewn cyfathrebu
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Alun.Davies@senedd.cymru
Dyddiad cau: 12:00 (canol dydd), 07 Chwefror 2023
Dyddiad cyfweliad: I’w gadarnhau