Swyddog Seneddol i Natasha Asghar AS
Ystod cyflog: £23,440 - £34,357 (pro rata)
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd hyd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 1 swydd x 37 awr (amser llawn) NEU 2 swydd x 18.5 awr (rhan amser)
Lleoliad: Y swyddfa ranbarthol yng Nghasnewydd, a bydd gofyn i chi weithio yn y Senedd o bryd i’w gilydd.
Natur y penodiad: Parhaol
Cyf: MBS-087-22
Diben y swydd
Rheoli a chydgysylltu'r holl wasanaethau cymorth, gan gynnwys ymchwil, gweinyddiaeth a gwaith achos ar gyfer yr Aelod o’r Senedd dros Dde-ddwyrain Cymru. Yr ymgeisydd (neu ymgeiswyr) llwyddiannus fydd y pwynt cyswllt cyntaf yn y swyddfa ranbarthol. Bydd y prif dasgau yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â'r tîm i gyflawni prif amcanion yr Aelod a rheoli’r swyddfa a systemau’r swyddfa.
Prif ddyletswyddau
1) Rheoli systemau swyddfa, goruchwylio gweithgareddau swyddfa, trefnu llwyth gwaith, cydweithio'n agos ag aelodau eraill o staff er mwyn sicrhau bod pawb yn gweithio’n gydlynol fel tîm.
2) Darparu cymorth ysgrifenyddol, gwaith achos, ymchwil a gweinyddol cynhwysfawr yn ôl y galw i etholwyr ac ar gyfer ymholiadau ynghylch gwaith achos.
3) Drafftio llythyrau ar ran yr Aelod o’r Senedd ar amrywiaeth o faterion;
4) Ymateb i negeseuon e-bost, llythyrau ac ymholiadau tebyg mewn modd proffesiynol, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
• Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb, a hynny mewn amgylchedd gwleidyddol yn ddelfrydol
• Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rheoli swyddfa brysur.
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion sy'n berthnasol i Dde-ddwyrain Cymru.
• Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan mewn Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Dylech chi nodi os ydych yn gwneud cais am y rôl hon ar sail ran-amser neu amser llawn yn eich cais.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Natasha.Asghar@senedd.cymru
Dyddiad cau: 17:00., 17 Chwefror 2023
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau