Swyddog Ymchwil a Chyfathrebu ar gyfer Russell George AS
Ystod cyflog (pro rata): £27,722 – £40,321
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 29.6 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod Penodol tan 07/05/2026 gyda'r posibilrwydd o ddod yn barhaol
Lleoliad: Swyddfa Caerdydd (Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN)
Cyfeirnod: MBS-062-25
Diben y swydd:
Cefnogi’r Aelod o’r Senedd i ymgysylltu’n effeithiol â sefydliadau a chymunedau ar draws yr etholaeth, a hynny wrth weithio gyda chydweithwyr i ddatrys gwaith achos mewn modd amserol
Prif ddyletswyddau:
- Cysylltu ag aelodau o'r llywodraeth a llywodraeth leol, pencadlys y blaid, gwleidyddion eraill a'u staff, llysgenadaethau, comisiynwyr, grwpiau perthnasol sydd â diddordeb, y cyfryngau, sefydliadau perthnasol yn y sector gwirfoddol ac etholwyr
- Sicrhau y caiff yr Aelod o’r Senedd wahoddiadau rheolaidd i gwrdd ag aelodau o grwpiau / cymdeithasau a sgwrsio â nhw a sicrhau y caiff ymweliadau eu cofnodi ar gronfa ddata
- Paratoi a threfnu areithiau a chwestiynau ar gyfer y Cyfarfod Llawn
- Cydgysylltu ag aelodau eraill o staff i gynnal dyddiadur apwyntiadau ar gyfer yr Aelod
- Ymchwilio a mynd ar drywydd materion a godwyd mewn gohebiaeth, gan sicrhau eu bod yn cael eu datrys mewn modd amserol
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
- Y gallu i weithio ar eich liwt ei hun gan gadw at derfynau amser tynn, ynghyd â'r gallu i weithio'n hyblyg ac ymdopi ag amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- Sgiliau rhyngbersonol effeithiol a’r gallu i ymdrin ag amrywiaeth o bobl, weithiau mewn sefyllfaoedd heriol
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar o’r radd flaenaf
- Y gallu i ddangos sensitifrwydd ac i sicrhau bod y safonau cyfrinachedd uchaf yn cael eu cynnal
Cymhwysterau hanfodol:
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch