Swyddog Ymchwil a Chyfathrebu i Janet Finch-Saunders AS
Ystod cyflog: £24,143 - £35,388 (pro rata)
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd hyd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 22.2 awr
Lleoliad: Ty Hywel, Bae Caerdydd
Natur y penodiad: Parhaol
Cyf: MBS-008-23
Diben y swydd
Rheoli a chydgysylltu'r holl wasanaethau cymorth, gan gynnwys ymchwil, gweinyddiaeth a gwaith achos ar gyfer yr Aelod o’r Senedd. Bydd y tasgau allweddol yn cynnwys arwain ac ysgogi’r tîm o staff a rheoli cyllidebau a systemau swyddfa.
Prif ddyletswyddau
- Cysylltu ag aelodau o'r Llywodraeth a llywodraeth leol, pencadlysoedd y pleidiau, gwleidyddion eraill a'u staff, llysgenadaethau, comisiynwyr, grwpiau perthnasol sydd â diddordeb, y cyfryngau, sefydliadau perthnasol y sector gwirfoddol ac etholwyr
- Sicrhau y caiff yr Aelod o’r Senedd wahoddiadau rheolaidd i gwrdd ag aelodau o grwpiau/cymdeithasau a sgwrsio â nhw a sicrhau y caiff ymweliadau eu cofnodi ar gronfa ddata
- Paratoi a threfnu areithiau a chwestiynau ar gyfer y Cyfarfod Llawn
- Cydgysylltu ag aelodau eraill o staff i gynnal dyddiadur apwyntiadau ar gyfer yr Aelod
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol
- Sgiliau TG effeithiol, yn enwedig wrth ddefnyddio pecynnau Microsoft fel Word, Outlook ac Excel
- Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Mostyn.Jones@senedd.cymru
Dyddiad cau: 12:00 (canol dydd), 01 Mehefin 2023
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau