Swyddog Ymchwil i Jane Dodds AS
Ystod Cyflog: £21,225 - £28,624 pro rata (band 3)
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau Gweithio: 22.2 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel a gweithio gartref
Cyfeirnod: MBS-084-22
Pwrpas y Swydd
Helpu i ddarparu gwaith ymchwil, cyngor a chymorth gweinyddol o safon uchel i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau y cynhelir safonau o ran cyfrinachedd.
Prif ddyletswyddau:
- Cynnal gwaith ymchwil i faterion lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ôl y gofyn a sicrhau bod yr Aelod o’r Senedd yn ymwybodol o unrhyw faterion perthnasol
- Ymchwilio i feysydd polisi perthnasol yn unol â chyfarwyddyd yr Aelod o’r Senedd
- Darparu papurau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo’r Aelod o’r Senedd wrth ymdrin â gwaith achos etholaethol a’i fonitro i helpu i lywio gwaith yr Aelod
- Darparu gwaith ymchwil o safon uchel mewn ymateb i ymholiadau
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol
- Profiad mewn amgylchedd ymchwil neu wybodaeth
- Dealltwriaeth o'r angen i fynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac ymrwymiad iddynt, a’r gallu i weithio mewn amgylchedd sensitif
- Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn
Cymwysterau hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
- Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.
I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Rhys.Taylor@senedd.cymru
Dyddiad cau: 12pm (canol dydd), 15 Chwefror 2023
Dyddiad cyfweliad: 23 Chwefror 2023