Cyfle Gwaith: Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned a Gwaith Achos ar gyfer Kiera Marshall AS

Cyhoeddwyd 05/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/08/2026

 Cyfle Gwaith: Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned a Gwaith Achos ar gyfer Kiera Marshall AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 29.6 awr yr wythnos (4 diwrnod yr wythnos)
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Y Senedd, y Swyddfa Etholaethol, ac ar draws yr Etholaeth
Cyfeirnod: MBS-140-26

Prif ddyletswyddau:

  • Gwneud gwaith ymchwil ar ymgyrchoedd a materion lleol sy’n digwydd yn etholaeth
    yr aelod a sut mae polisi Llywodraeth Cymru yn rhyngweithio â’r rhain.
  • Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau cymunedol o fewn yr
    etholaeth.
  • Gweithio ar draws y tîm i sicrhau bod gwaith ymgysylltu â’r gymuned yn gysylltiedig
    â ffrydiau gwaith eraill yr Aelod.
  • Ymdrin ag achosion mwy cymhleth a gwneud gwaith dilynol ar ymholiadau a godwyd gan etholwyr unigol neu grwpiau ymgyrchu/lobïo.
  • Gohebu ar ran yr Aelod a chyfeirio ymholwyr at ffynonellau priodol o wybodaeth, cyngor ac arweiniad.
  • Siarad ag etholwyr sy'n gwneud cwynion ac, ar eu rhan, mynd at sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus perthnasol i ddatrys problemau a materion a godwyd.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r
    Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd
    (safonau ymddygiad, gwariant ac ati), yn ogystal â fframweithiau ehangach a
    chyffredinol, a’r gallu i ddarparu cyngor gwybodus i’r Aelod a chydweithwyr ar y
    materion hyn.
  • Sgiliau ymchwilio a chefndir mewn trefnu ac ymgysylltu â’r gymuned.
  •  Cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol gyda'r gallu amlwg i lunio adroddiadau a
    phapurau briffio clir ac argyhoeddiadol.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Dangos profiad o amrywiaeth o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith
    perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. gradd, NVQ neu gymhwyster
    cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Thomas.Pugh@Senedd.Cymru.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Thomas.Pugh@Senedd.Cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 19 Awst 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau