Swyddog Ymgysylltu Cymunedol i Laura Anne Jones AS
Ystod cyflog: £23,440 - £34,357 pro-rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 37
Lleoliad: Y Swyddfa ranbarthol, Casnewydd.
Natur y penodiad: Parhaol
Cyf: MBS-008-22
Diben y swydd
Rhoi cymorth gweinyddol, etholaethol a seneddol i’r Aelod o’r Senedd, yn ogystal â chymorth gyda chyhoeddusrwydd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau
- Cysylltu ag aelodau o'r Llywodraeth a llywodraeth leol, pencadlysoedd y pleidiau, gwleidyddion eraill a'u staff, llysgenadaethau, comisiynwyr, grwpiau perthnasol sydd â diddordeb, y cyfryngau, sefydliadau perthnasol y sector gwirfoddol ac etholwyr.
- Sicrhau y caiff yr Aelod wahoddiadau rheolaidd i gwrdd ag aelodau o grwpiau/cymdeithasau a sgwrsio â hwy a sicrhau y caiff ymweliadau eu cofnodi ar gronfa ddata.
- Cynnal dyddiadur o apwyntiadau ar gyfer yr Aelod, a fydd yn cynnwys rheoli apwyntiadau a chyfarch ymwelwyr yn ôl yr angen.
- Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, gwleidyddion eraill, y cyfryngau, lobïwyr a grwpiau pwyso.
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
- Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa.
- Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rhedeg swyddfa brysur.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
Cymwysterau Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol neu;
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol neu;
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd y gellir eu dangos e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) Gradd C neu'n uwch.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i CymorthBusnesAelodau@senedd.cymru
Dyddiad cau: 12pm (canol dydd), 24 Mai 2022.
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau.