Swyddog Cyfathrebu i Joel James AS
Ystod cyflog: £24,143 - £35,388 pro-rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 7.4awr (1 diwrnod)
Lleoliad: Swyddfa'r etholaeth/gartref
Natur y penodiad: Tymor penodol - 1 flwyddyn
Cyf: MBS-112-23
Diben y swydd:
Gwneud gwaith ymchwil/gwaith sy'n ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau ar ran yr Aelod o’r Senedd yn ôl y gofyn, gan sicrhau y caiff safonau cyfrinachedd eu cadw.
Prif ddyletswyddau:
- Paratoi a rheoli graffeg ar gyfer gwaith yr Aelod i ymgysylltu â'r cyhoedd
- Gwneud gwaith ymchwil, paratoi ac ysgrifennu datganiadau i'r wasg ar gyfer y cyfryngau
- Trafod gyda'r Aelod o’r Senedd / y Rheolwr Swyddfa a nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i'r cyfryngau
- Nodi digwyddiadau sydd i ddod a all fod yn gyfleoedd ar gyfer sylw yn y cyfryngau
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio’n effeithiol yn y wasg ysgrifenedig, y byd darlledu neu ar-lein, neu’r sector cysylltiadau cyhoeddus.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r dulliau o ymdrin â’r cyfryngau, gan gynnwys dylunio cynllun cyfathrebu.
- Dealltwriaeth o'r angen i adlewyrchu barn yr Aelod o’r Senedd mewn modd sy'n adlewyrchu cyfle cyfartal ac nad yw'n ymfflamychol, yn ansensitif, yn enllibus, yn athrodus neu'n ddifenwol.
Cymwysterau Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Lee.Gonzalez@senedd.cymru
Dyddiad cau: 17:00, 10 Ebrill 2024
Dyddiad cyfweliad: I’w gadarnhau