Uwch-gynorthwyydd Seneddol i James Evans AS
Cyfeirnod: MBS-107-22
Ystod cyflog: £27,450 – £38,740 pro-rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 37
Lleoliad: Ty Hywel, Bae Caerdydd
Natur y penodiad: Parhaol
Diben y swydd
Cymryd yr awenau a darparu deunydd ymchwil, dadansoddi a briffio o ansawdd uchel i'r Aelod ar ystod eang o bynciau. Gallai hyn olygu pynciau nad yw'r deiliad swydd yn gyfarwydd â nhw. Gwneud gwaith ymchwil/gwaith sy'n ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau ar ran yr Aelod o’r Senedd yn ôl y gofyn, gan sicrhau y caiff safonau cyfrinachedd uchel eu cadw.
Prif ddyletswyddau
- Darparu cyngor a deunydd ymchwil, dadansoddiadau a deunydd briffio o ansawdd uchel, a hynny'n amserol, ar amrywiaeth o feysydd polisi a deddfwriaeth
- Datblygu a chynnal gwybodaeth am bynciau y cytunir arnynt fel y gallwch ragweld a diwallu anghenion gwybodaeth yr Aelod o’r Senedd.
- Datblygu perthynas effeithiol â chydweithwyr o wahanol feysydd gwasanaeth ar draws y Senedd, a chydweithio gyda nhw.
- Datblygu perthynas waith dda gyda'ch cymheiriaid yn neddfwrfeydd eraill y DU (San Steffan, Holyrood), a chydag ymchwilwyr a swyddogion polisi.
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
- Profiad sylweddol o ddarparu deunydd ymchwil neu gyfathrebu mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
- Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur
- Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
Cymwysterau Hanfodol
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Kate.Pritchard@senedd.wales
Dyddiad cau: 12:00, 04 Ebrill 2023.
Dyddiad cyfweliad: 11 Ebrill 2023