Cyfle Gwaith: Uwch-swyddog Cyfathrebu ac Ymchwil ar gyfer Iain McIntosh AS

Cyhoeddwyd 04/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/08/2026

Cyfle Gwaith: Uwch-swyddog Cyfathrebu ac Ymchwil ar gyfer Iain McIntosh AS

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37
Natur y penodiad: Tymor 6 mis gyda’r potensial am estyniad i 4 blynedd, neu ddiwedd
tymor y Senedd, pa un bynnag sy’n dod gyntaf
Lleoliad: Y Senedd/Tŷ Hywel
Cyfeirnod: MBS-132-26

Prif ddyletswyddau:

  • Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu sy'n cyd-fynd â
    blaenoriaethau gwleidyddol yr Aelod.
  • Cynnal ymchwil fanwl ar ddeddfwriaeth, polisïau'r llywodraeth a thueddiadau
    gwleidyddol.
  • Drafftio a mireinio areithiau, erthyglau, briffiau polisi, cwestiynau, gwelliannau, a
    chynigion ar gyfer yr Aelod.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad sylweddol o ddarparu deunydd ymchwil a / neu waith cyfathrebu mewn
    amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
  • Profiad o weithio'n uniongyrchol â phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd
    prysur.
  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r
    Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd
    (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a
    chyffredinol. Gallu rhoi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Iain.McIntosh-MS@Senedd.Wales.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Iain.McIntosh-MS@Senedd.Wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 12 Awst 2026 am 17:00

Dyddiad cyfweliad:  I'w gadarnhau