Dirprwy Bennaeth Staff i Andrew RT Davies AS, Pennaeth Grŵp Senedd y Ceidwadwyr Cymreig
Ystod cyflog: £27,450 - £38,740 pro-rata
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar gyflog isaf y raddfa ar gyfer y band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd cyflog uchaf y raddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37
Lleoliad: Senedd, Bae Caerdydd
Natur y penodiad: Parhaol
Cyf: MBS-085-22
Diben y swydd
Gweithio fel rhan o'r tîm cyfathrebu, ymchwil ac ymgysylltu ag etholwyr, gan gefnogi aelodau o Grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd i sicrhau eu bod mor effeithiol â phosibl wrth gyfathrebu â'r cyhoedd am y ffordd maen nhw’n cyflawni eu dyletswyddau yn y Senedd. Mae Grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd yn weithgar ym mhob agwedd ar waith y Senedd, yn cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae staff sy'n gweithio i'r grŵp yn cefnogi pob Aelod o’r Senedd yng Ngrŵp y Ceidwadwyr drwy weinyddu eu busnes yn y Senedd a thrwy gydlynu a chefnogi gweithgareddau’r grŵp yn yr amgylchedd gwleidyddol prysur hwn.
Prif ddyletswyddau
1. Rheoli systemau swyddfa’r wasg a monitro allfeydd cyfryngau, sy’n cynnwys meysydd print, darlledu ac ar-lein yn effeithiol, er mwyn sicrhau cydgysylltiad effeithiol o fewn y grŵp.
2. Sefydlu a datblygu cysylltiadau cadarn â'r wasg, y cyfryngau ar-lein a’r cyfryngau darlledu er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o waith yr Aelodau o’r Senedd.
3. Trafod â’r Aelodau o’r Senedd/Rheolwyr Swyddfa a nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i'r cyfryngau, a chynorthwyo gyda’r gwaith o gynllunio a datblygu strategaeth a threfniant eu hymgyrchoedd yn y cyfryngau.
4. Gwneud gwaith ymchwil cyn paratoi ac ysgrifennu datganiadau i'r wasg a datganiadau eraill i'r cyfryngau.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol
• Profiad sylweddol o weithio’n effeithiol yn y wasg ysgrifenedig, ym myd darlledu neu ar-lein, neu’r sector cysylltiadau cyhoeddus, yn ddelfrydol ym maes gwleidyddiaeth neu’i debyg;
• Profiad o ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu a threfnu ymgyrchoedd cyfryngau;
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â’r cyfryngau, gan gynnwys llunio datganiadau i'r wasg;
• Profiad neu ddealltwriaeth o gyfraith y cyfryngau;
• Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
Cymwysterau Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Gymhwyster NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Paul.Smith@senedd.cymru
Sylwch fod dwy swydd yn cael eu hysbysebu yn y swyddfa ar hyn o bryd, gallwch ddod o hyd i fanylion y swydd arall yma. Dim ond un o'r swyddi hyn fydd yn cael ei llenwi.
Dyddiad cau: 00.00 5 Chwefror 2023
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau