Uwch-swyddog Cyfathrebu i Mark Drakeford AS, Rheolwr Grŵp Senedd Llafur.
Cyfeirnod MBS: MBS-080-22
Ystod cyflog: £27,450 - £38,740 pro-rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 37
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Parhaol
Diben y Swydd:
Diben y rôl hon yw hyrwyddo gwaith Grŵp Llafur Cymru yn y Senedd.
Bydd deiliad y swydd:
• Yn arwain y broses o ddatblygu a chyflawni gwaith cyfathrebu strategol a digidol y Grŵp.
• Yn meithrin ac yn cynnal perthynas waith dda gyda'r cyfryngau a dylanwadwyr cymdeithasol ar ran y Grŵp.
• Yn rhoi cyngor a chymorth i Aelodau'r Grŵp er mwyn gwneud y gorau o'u gallu i gyfathrebu mewn perthynas â’u gwaith.
• Yn mireinio sgiliau’r Aelodau a'u staff o ran cynhyrchu cynnwys digidol a defnyddio ystod o adnoddau cyfathrebu.
Prif ddyletswyddau:
• Arwain y broses o ddylunio a gweithredu gwaith cyfathrebu strategol y Grŵp, ar y cyd ag Aelodau, eu staff a swyddogion y Grŵp.
• Datblygu cynnwys digidol diddorol i hyrwyddo gwaith Aelodau o’r Senedd sy’n rhan o Grŵp Llafur Cymru.
• Bod yn brif bwynt cyswllt yn y swyddfa ar gyfer holl ymholiadau'r cyfryngau, gyda chyfrifoldeb am feithrin a chynnal perthynas dda gyda chysylltiadau allweddol.
• Monitro holl sianeli’r cyfryngau a rhoi cyngor rhagweithiol ac adweithiol i Aelodau, eu staff a swyddogion y Grŵp.
• Mynd ati’n rheolaidd i baratoi amrediad llawn o ddeunyddiau ysgrifenedig ac electronig y gellir eu haddasu sy'n hyrwyddo gwaith Aelodau o’r Senedd sy’n rhan o Grŵp Llafur Cymru ymhlith etholwyr, cymunedau a'r cyfryngau lleol a rhanbarthol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
• Dealltwriaeth ardderchog o rôl y Senedd, materion cyfoes, gwleidyddiaeth Cymru a'r amgylchedd gwleidyddol ehangach.
• Profiad o weithio ym maes cyfathrebu digidol a’r cyfryngau, fel swyddog y wasg / cyfathrebu, neu o fewn y sector cysylltiadau cyhoeddus.
• Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o dechnegau ar gyfer ymdrin â'r cyfryngau, yn ogystal â llunio a gweithredu cynllun cyfathrebu.
• Profiad amlwg o ddefnyddio meddalwedd dylunio a golygu i greu cynnwys ar gyfer sianeli cyfryngau digidol, a phrofiad o ymdrin â chyfryngau cymdeithasol.
• Dealltwriaeth dda o agenda polisi Llafur Cymru.
• Profiad o weithio mewn amgylchedd lle’r ydych o dan bwysau.
• Profiad o waith gweinyddol a gwybodaeth dda am systemau swyddfa.
• Dealltwriaeth o Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymiad iddynt.
Cymwysterau hanfodol:
- Gradd, Cymhwyster NVQ lefel 3/4 neu brofiad cyfatebol perthnasol.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
I gael manylion am y swydd cysylltwch â Anthony.Cooper@senedd.cymru neu ffonwch 0300 200 7125 I wneud cais, cysylltwch â Anthony.Cooper@senedd.cymru