Uwch-swyddog Ymchwil i Peter Fox AS
Ystod Cyflog: £27,450 - £38,740 pro rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau Gweithio: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Ty Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-082-22
Pwrpas y Swydd
Cymryd yr awenau a darparu deunydd ymchwil, dadansoddi a briffio o ansawdd uchel i'r Aelod ar ystod eang o bynciau. Gallai hyn olygu pynciau nad yw'r deiliad swydd yn gyfarwydd â hwy.
Prif ddyletswyddau
1. Darparu cyngor, deunydd ymchwil, dadansoddi a briffio o ansawdd uchel, a hynny'n amserol, ar ystod o feysydd polisi a deddfwriaeth.
2. Datblygu a chynnal gwybodaeth am bynciau y cytunir arnynt fel y gallwch ragweld a diwallu anghenion gwybodaeth yr Aelod o’r Senedd.
3. Datblygu perthynas effeithiol â chydweithwyr o wahanol feysydd gwasanaeth ar draws y Senedd, a chydweithio gyda hwy.
4. Datblygu perthynas waith dda gyda'ch cymheiriaid yn neddfwrfeydd eraill y DU, gyda'r gymuned ymchwil a chyda swyddogion polisi.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol
• Profiad sylweddol o ddarparu deunydd ymchwil neu friffio mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
• Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur.
• Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
Cymwysterau Hanfodol
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
• Cymhwyster NVQ lefel 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.
I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Peter.Fox-restricted@senedd.wales
Dyddiad cau: 17.00, 6 Chwefror 2023
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau