Ymchwilydd i Jane Dodds AS
Ystod cyflog: £21,862 - £29,483 (pro rata)
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd hyd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 22.2 awr
Lleoliad: Swyddfa rhanbarthol a gartref
Natur y penodiad: Tymor penodol am 12 mis*
Cyf: MBS-077-23
Diben y swydd
Helpu i ddarparu cymorth ymchwil, cyngor a gweinyddol o ansawdd uchel i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau
- Cynnal gwaith ymchwil i faterion lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ôl y gofyn a sicrhau bod yr Aelod o’r Senedd yn ymwybodol o unrhyw faterion perthnasol
- Ymchwilio i feysydd polisi perthnasol yn unol â chyfarwyddyd yr Aelod o’r Senedd
- Darparu papurau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo’r Aelod o’r Senedd wrth iddo ymdrin â gwaith achos etholaethol neu er mwyn helpu i lywio trafodaethau
- Darparu gwaith ymchwil o safon uchel mewn ymateb i ymholiadau
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
- Profiad mewn amgylchedd ymchwil neu wybodaeth.
- Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur
- Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal a’r gallu i weithredu mewn amgylchedd sensitif, ac ymrwymiad i'r materion hyn
Cymwysterau Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Rhys.Taylor@senedd.cymru
Dyddiad cau: 12:00 (canol dydd) 31 Hydref 2023
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau