Ymchwilydd i Mabon ap Gwynfor MS
Ystod cyflog: £23,742 - £31,798 pro rata
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd cyflog uchaf y raddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 14.8
Lleoliad: Ty Hywel, Caerdydd
Natur y penodiad: Cynod Penodol (12mis)
Cyf: MBS-024-24
Diben y swydd
Helpu i ddarparu cymorth ymchwil, cyngor a gweinyddol o ansawdd uchel i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau
1. Cynnal gwaith ymchwil i faterion lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ôl y gofyn a sicrhau bod yr Aelod o’r Senedd yn ymwybodol o unrhyw faterion perthnasol
2. Ymchwilio i feysydd polisi perthnasol yn unol â chyfarwyddyd yr Aelod o’r Senedd
3. Darparu papurau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo’r Aelod o’r Senedd wrth iddo ymdrin â gwaith achos etholaethol neu er mwyn helpu i lywio trafodaethau
4. Darparu gwaith ymchwil o safon uchel mewn ymateb i ymholiadau
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
• Profiad mewn amgylchedd ymchwil neu wybodaeth
• Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur
• Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal a’r gallu i weithredu mewn amgylchedd sensitif, ac ymrwymiad i'r materion hyn
• Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan mewn Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn
Cymwysterau Hanfodol
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
• Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i mabon.ap.gwynfor@senedd.cymru
Dyddiad cau: 13:00, 04 Hydref 2024.
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau