a

a

Cyfle Gwaith: Ymchwilydd i Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd

Cyhoeddwyd 22/08/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/08/2023   |   Amser darllen munudau

Ymchwilydd i Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd

Cyfeirnod: MBS-057-23

Ystod cyflog: £24,143 - £35,388 pro-rata 

Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.

Oriau gwaith: 37

Lleoliad: Ty Hywel, Bae Cymru

Natur y penodiad: Parhaol*

Diben y swydd

Darparu cynnwys, nodiadau briffio a dadansoddiadau o ansawdd uchel i Aelodau Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd i gyflawni eu hanghenion ymchwil gwleidyddol yn y Senedd a’r tu allan iddi, yn ôl cyfarwyddyd yr Uwch Ymchwilydd.

Prif ddyletswyddau

  • Darparu cyngor ymchwil gwleidyddol, dadansoddiadau a gwybodaeth o ansawdd ar ystod o bynciau, meysydd deddfwriaethol a pholisi. Cael yr wybodaeth a’r ystadegau gofynnol, eu deall, eu dadansoddi, eu cyflwyno a’u cyfleu.  Bydd hyn weithiau’n gofyn am ymgyfarwyddo’n gyflym â meysydd pwnc newydd.
  • Datblygu a chynnal gwybodaeth am feysydd pwnc penodol y cytunwyd arnynt yn rhagweithiol fel bod modd i chi rag-weld a diwallu anghenion gwybodaeth yr Aelodau, gan gynnwys bod yn ymwybodol o’r ffynonellau gwybodaeth diweddaraf sydd ar gael yn y meysydd pwnc rydych yn ymwneud â nhw, a dilyn rhaglenni polisi a deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn y meysydd pwnc hyn yn agos.
  • Darparu nodiadau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo’r Aelodau i baratoi ar gyfer cyfarfodydd mewnol ac allanol, digwyddiadau cyhoeddus, ymddangosiadau cyfryngau.
  • Drafftio datganiadau safbwynt polisi a drafftio ymatebion i ohebiaeth berthnasol o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt i gynorthwyo’r Aelodau i ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill.

Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol

  • Profiad perthnasol mewn amgylchedd ymchwil neu wybodaeth.
  • Profiad o weithio’n uniongyrchol gyda phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur.
  • Dealltwriaeth o frwydro yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan, ac ymrwymiad i hynny.
  • Dealltwriaeth o faterion cyfoes a phynciau sy’n berthnasol i Gymru, a diddordeb yn system wleidyddol Cymru.

Cymwysterau Hanfodol

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
  • Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i LewisRichard.Owen@senedd.cymru 

Dyddiad cau: 13:00, 04 Medi 2023

Dyddiad cyfweliad: 13 Medi 2023