Ymchwilydd Iau a Swyddog Cyfathrebu i Dr Altaf Hussain AS
Ystod cyflog: £21,862 - £29,483 pro rata
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd cyflog uchaf y raddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 22.2
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd / Swyddfa ranbarthol.
Natur y penodiad: Parhaol.
Cyf: MBS-082-23
Diben y swydd
Ymgymryd â gwaith ymchwil a gwaith sy'n ymwneud â’r cyfryngau ar ran yr Aelod o’r Senedd yn ôl y gofyn, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau
1. Trafod gyda'r Aelod o’r Senedd / y Rheolwr Swyddfa a nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i'r cyfryngau
2. Nodi digwyddiadau sydd i ddod a all fod yn gyfleoedd i gael sylw yn y cyfryngau.
3. Sefydlu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau, cymorthfeydd ac ati ac ymateb i ymholiadau a sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol
4. Sefydlu system effeithiol ar gyfer monitro'r cyfryngau, sy'n cynnwys y cyfryngau print, darlledu ac ar-lein
5. Datblygu dulliau o e-gyfathrebu ag etholwyr a grwpiau sy'n ymgyrchu dros faterion lleol ar draws y rhanbarth
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
• Gwybodaeth am olygu a chynhyrchu cynnwys ar gyfer llwyfanau ar-lein gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r dulliau o ymdrin â’r cyfryngau, gan gynnwys dylunio cynllun cyfathrebu.
• Dealltwriaeth o'r angen i adlewyrchu barn yr Aelod o’r Senedd mewn modd sy'n adlewyrchu cyfle cyfartal ac nad yw'n ymfflamychol, yn ansensitif, yn enllibus, yn athrodus neu'n ddifenwol.
• Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn
Cymwysterau Hanfodol
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
• Gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Sandra.Morgan@senedd.cymru
Dyddiad cau: 17:00, 01 Rhagfyr 2023.
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau