Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Materion Seneddol ar gyfer Mair Rowlands AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 – £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-138-26
Prif ddyletswyddau:
- Monitro'r cyfryngau lleol a chenedlaethol am newyddion perthnasol.
- Cynorthwyo gyda'r gwaith o ddrafftio cwestiynau Senedd, llythyrau at Weinidogion, papurau briffio ac areithiau.
- Helpu i drefnu a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Gwybodaeth am sut i gyfleu gwaith yr Aelod yn effeithiol ar draws ystod eang o sianeli mewn amgylchedd cyfryngol sy'n newid ac yn datblygu'n gyson.
- Dealltwriaeth o brosesau llywodraethol a seneddol.
- Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor cymwys.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd mewn pwnc perthnasol.