Teithio

Cyhoeddwyd 13/03/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/03/2024

Cynllun Beicio i'r Gwaith

Mae'r Senedd yn rhedeg cynllun beicio i'r gwaith i'w staff er mwyn ceisio sicrhau eu bod yn elwa ar fuddion teithio i'r gwaith yn y modd hwn y mae Staff Cymorth Aelodau hefyd yn gymwys ar eu cyfer; O dan y cynllun hwn, gall aelod o staff aberthu rhan o'i gyflog er mwyn prynu beic. O dan y cynllun, mae 18 o randaliadau misol yn cael eu tynnu o gyflog gros yr aelod staff. Felly, nid oes gofyn iddo dalu treth na chyfraniadau Yswiriant Gwladol mewn perthynas â'r swm hwnnw. Mae'r arbedion i'r aelod staff, yn dibynnu ar ei fand treth, yn cyfateb i tua 35% o bris cychwynnol y beic.