Sefyll i fod yn Aelod Senedd

Cyhoeddwyd 04/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2022   |   Amser darllen munudau

Etholiadau’r Senedd

Gwybodaeth ar gyfer Ymgeiswyr

Nod y dudalen hon yw rhoi gwybodaeth gefndir i ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ynghylch sefyll mewn etholiad, ac amlinelliad o'r cymorth a'r arweiniad a fydd ar gael iddynt os cânt eu hethol.

Cymhwyso i fod yn Aelod o'r Senedd

I fod yn Aelod o'r Senedd mae'n rhaid i chi fod yn gymwys i fod yn aelod, trwy fodloni gofynion fel oedran a dinasyddiaeth.

Bydd angen i chi hefyd sicrhau nad ydych wedi cael eich anghymhwyso rhag gallu ymgeisio.
Mae yna nifer o resymau pam y gallech gael eich anghymhwyso rhag sefyll etholiad i'r Senedd neu rhag bod yn Aelod o'r Senedd. Mae ystod lawn yr anghymwysiadau yn gymhleth. Maent yn cynnwys, er enghraifft, bobl sydd â swyddi penodol, pobl a ddyfarnwyd yn fethdalwyr, a phobl a gafwyd yn euog o droseddau penodol.

Mae gwahanol reolau yn berthnasol o ran p'un a allwch chi fod yn:
  1.  ymgeisydd mewn etholiad Senedd; neu
  2.  Aelod o'r Senedd.
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi canllawiau ar etholiadau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantau. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gymhwyster ac anghymhwyso rhag ymgeisyddiaeth ac aelodaeth o'r Senedd.
Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw amheuaeth mae'n rhaid i chi ymgynghori â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol a / neu ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.
Mae deddfwriaeth allweddol sy'n ymwneud â gwaharddiad yn cynnwys:
  • Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020)
  • Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020.

Nid yw'r rhestr uchod yn cynnwys yr holl ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghymhwyso, a chanllawiau’n unig yw'r wybodaeth a roddir yma. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd ei hun yw sicrhau nad yw'n anghymwys i sefyll etholiad neu i fod yn Aelod o'r Senedd.

Rôl Aelodau o’r Senedd

Mae Aelodau o’r Senedd yn cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, yn deddfu ar gyfer Cymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae’r Aelodau yn cynrychioli buddiannau'r unigolion sy'n byw yn yr etholaethau neu'r rhanbarthau y cawsant eu hethol i'w cynrychioli. Maent yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd yn rheolaidd drwy gyfarfodydd, galwadau ffôn, gohebiaeth neu gymorthfeydd.

Maent yn cyfarfod gyda'i gilydd yn y Cyfarfod Llawn ddwywaith yr wythnos, lle mae'r Aelodau'n gofyn cwestiynau i weinidogion Llywodraeth Cymru, yn trafod materion fel polisïau'r llywodraeth ac adroddiadau pwyllgorau ac yn archwilio deddfau Cymru. Gall gwrthbleidiau gynnal dadleuon ar faterion o’u dewis, a gall aelodau unigol fynd ar drywydd materion sy’n bwysig iddyn nhw a’r bobl sy’n eu hethol.

Mae'r aelodau hefyd yn cwrdd ym mhwyllgorau'r Senedd, sy'n archwilio'n fanwl sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith, yn ystyried deddfau arfaethedig, ac yn ymchwilio i faterion sydd o bwys i bobl Cymru.

Cymorth gan y Comisiwn

 Comisiwn y Senedd yw'r corff corfforaethol sy'n gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau'n cael eu darparu ar gyfer y Senedd. Mae Comisiwn y Senedd yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod o bleidiau gwleidyddol gwahanol.

Mae staff y Comisiwn yn darparu gwahanol fathau o gymorth, gan gynnwys cyngor amhleidiol, arweiniad a chymorth ymarferol i Aelodau.

Mae gwasanaethau'r Comisiwn yn cynnwys:

  • Cymorth ar gyfer Busnes y Senedd, gan gynnwys y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau;
  • Gwasanaeth Ymchwil sy'n darparu papurau briffio a dadansoddiadau;
  • Gwasanaethau Cyfreithiol;
  • Cyfathrebu, gan gynnwys timau Allgymorth ac Addysg;
  • Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd;
  • TGCh; a
  • Gwasanaethau Aelodau megis datblygiad proffesiynol parhaus, cymorth ariannol ac arweiniad i'r Aelodau fel cyflogwyr.

Cyflogau a lwfansau

Bwrdd Taliadau’r Senedd yw'r corff annibynnol sy'n gyfrifol am bennu cyflogau, pensiynau a lwfansau Aelodau o'r Senedd a'u staff.  Mae'r Bwrdd yn annibynnol ar y Senedd ac Aelodau o'r Senedd.

​Staff Cymorth Aelodau o'r Senedd

Caiff Aelodau gyflogi staff i'w cynorthwyo gyda'u dyletswyddau fel Aelodau o’r Senedd yn unol â Phenderfyniad y Bwrdd Taliadau. Mae cyngor a chymorth o ran recriwtio staff ar gael i Aelodau o'r Senedd gan staff Comisiwn y Senedd.

Swyddfeydd

Ystâd y Senedd yw tri adeilad ym Mae Caerdydd (y Senedd, Tŷ Hywel a'r Pierhead), a swyddfa ym Mae Colwyn.

Darperir swyddfa i bob Aelod yn Nhŷ Hywel, sef yr adeilad ger y Senedd. Hefyd, darperir ar gyfer costau swyddfa yn yr etholaeth/rhanbarth. Yn gyffredinol, mae Aelodau'n dewis swyddfeydd sy'n hawdd i'w hetholwyr eu cyrraedd ac sy'n hygyrch ar gyfer staff ac etholwyr.

Ieithoedd swyddogol

Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Senedd, ac mae'r Senedd yn anelu at fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Mae'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn nodi'r hyn y mae'r Senedd yn ei ddarparu yn ddwyieithog ar hyn o bryd; mae hefyd yn nodi'r gwasanaethau y mae'n anelu at eu darparu. Mae'r Cynllun yn seiliedig ar Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 ac fe'i mabwysiadwyd gan y Cynulliad yn ffurfiol ym mis Gorffennaf 2013.

Cydraddoldeb

Mae Comisiwn y Senedd wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal fel cyflogwr ac fel darparwr gwasanaethau. Mae Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Comisiwn y Senedd yn egluro sut y bydd Comisiwn y Senedd yn hyrwyddo cydraddoldeb, parchu amrywiaeth, a chanfod rhwystrau posibl i gydraddoldeb a'u dileu ar gyfer ein staff, Aelodau o'r Senedd a'u staff, a'r cyhoedd. 

Fel cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau, mae Aelodau o'r Senedd yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.  Mae cyngor ynghylch cyflawni'r dyletswyddau ar gael i Aelodau mewn ffeithlenni sydd ar gael ar fewnrwyd yr Aelodau, neu fe'i ceir gan Dîm Amrywiaeth a Chynhwysiant y Comisiwn.

Gwasanaethau eraill a gwybodaeth bellach

Bydd Comisiwn y Senedd yn cyfeirio Aelodau o'r Senedd at wasanaethau a chyfleusterau eraill, fel cymorth i Aelodau anabl, gofal plant, triniaeth feddygol pan na fyddant yn aros yn eu prif gartref, arlwyo, gwasanaethau post a rhwydweithiau cefnogi staff.

Darperir gwybodaeth a chymorth pellach i Aelodau ar bob agwedd ar eu rôl fel Aelodau o’r Senedd ar ôl iddynt dyngu'r llw neu roi'r cadarnhad.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â dysguaelodau@senedd.cymru