Polisi Urddas a Pharch Senedd Cymru

Cyhoeddwyd 22/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/03/2022   |   Amser darllen munudau

Nod;

Nod y polisi hwn yw:

  • sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus, a’u bod yn cael eu parchu, wrth ymgysylltu â Senedd Cymru;
  • sicrhau bod y bobl sy’n gweithio yma yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus, a’u bod yn cael eu parchu, yn eu hamgylchedd gwaith;
  • sicrhau bod diwylliant Senedd Cymru yn un amrywiol a chynhwysol sy’n adlewyrchu pobl Cymru;
  • sicrhau nad oes lle yn y sefydliad hwn i ymddygiad sy’n effeithio’n andwyol ar urddas pobl eraill;
  • sicrhau yr ymdrinnir â chwynion yn gyflym ac yn deg i bawb y mae’r cwynion yn berthnasol iddynt;
  • sicrhau bod yr opsiynau a’r gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am dorri’r polisi yn glir.

 

Pwy y gellir eu dwyn i gyfrif am eu hymddygiad o dan y polisi hwn?

  • Aelodau a etholwyd i Senedd Cymru (Aelodau’r Senedd);
  • Staff a gyflogir gan Aelodau’r Senedd a grwpiau gwleidyddol
  • Contractwyr, gan gynnwys cynghorwyr allanol, a’u staff ac isgontractwyr
  • Deiliaid swyddi a benodwyd gan y Senedd (pa un a yw deiliad y swydd yn derbyn tâl ai peidio)
  • Interniaid a’r rhai sy’n ymgymryd â phrofiad gwaith (pa un a ydynt yn derbyn tâl ai peidio).

Gellir dwyn ymddygiad Aelodau’r Senedd i gyfrif hefyd am amrywiaeth ehangach o ymddygiad o dan y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Senedd

Mae’r polisi hwn, a’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Senedd, yn rheoli ymddygiad Aelodau’r Senedd bob amser, ym mhob man ac ym mhob cyd-destun (gan gynnwys pan fydd yr Aelod yn gweithredu fel unigolyn preifat, e.e. ar wyliau).

Mae ymddygiad staff a gyflogir gan Aelodau’r Senedd a grwpiau gwleidyddol yn cael ei reoli gan y polisi hwn tra bônt yn y gwaith neu lle mae gweithgaredd yn gysylltiedig yn agos â’u gwaith, boed hynny ar eiddo’r Senedd, yn swyddfa etholaeth neu ranbarthol un o’r Aelodau, neu rywle arall.

Caiff ymddygiad contractwyr, gan gynnwys cynghorwyr allanol, a’u staff ac isgontractwyr sy’n darparu gwasanaethau i Gomisiwn y Senedd, ei reoli gan y polisi hwn tra byddant ar ein safle neu tra byddant yn darparu gwasanaethau i ni.

Disgwylir i interniaid a’r rheini sydd ar brofiad gwaith, pa un a ydynt yn derbyn tâl ai peidio, gynnal y safonau ymddygiad uchel a ddisgrifir yn ein polisïau tra byddant yn gweithio i Senedd Cymru.

Mae gan weithwyr Comisiwn y Senedd bolisi Urddas a Pharch a gytunir trwy’r bartneriaeth â’r undebau llafur. Mae ganddo’r un egwyddorion â’r polisi hwn, sef y disgwylir i gyflogeion gynnal y safonau ymddygiad uchaf, ac fe’u dygir i gyfrif o dan y gweithdrefnau cwyno a disgyblu presennol.

Disgwyliwn i unrhyw un sy’n defnyddio ein hadeiladau barchu’r rhai sy’n gweithio yma a chynnal y safonau ymddygiad uchel a nodir yn y polisi hwn. Byddwn yn ymchwilio i unrhyw gwynion a wneir am ymddygiad unrhyw un sy’n ymgymryd â gwaith yn y Senedd, swyddfeydd etholaeth, neu ble bynnag yr ydym yn cynnal busnes neu sy’n ymweld â’r mannau hyn, a phan fo’n briodol, byddwn yn codi’r materion hyn gyda’u cyflogwr. Lle bo’n briodol, byddwn yn rhoi gwybod i’r heddlu am y mater.

Pwy all gwyno am ymddygiad sy’n torri’r Polisi hwn?

Gall unrhyw un wneud cwyn. Gallwch ddefnyddio’r polisi hwn i gwyno am ymddygiad amhriodol yr ydych chi’n credu iddo ddigwydd, pa un ai chi oedd testun yr ymddygiad hwnnw ai peidio.

Pwy rydym ni’n ei olygu wrth "ni" yn y Polisi hwn?

Rydym yn golygu Comisiwn y Senedd - y corff sy’n darparu gwasanaethau i Aelodau’r Senedd a’r Senedd fel sefydliad.

Beth yw ymddygiad amhriodol sy’n torri’r polisi hwn?

Mae ymddygiad amhriodol yn golygu unrhyw ymddygiad sy’n effeithio yn andwyol ar urddas rhywun arall. Mae’n cynnwys aflonyddu, aflonyddu rhywiol, bwlio, bygwth a gwahaniaethu anghyfreithlon. Gall achosion o ymddygiad amhriodol olygu troseddau, megis aflonyddu troseddol, ymosodiad cyffredin neu ymosodiad rhywiol. Ond mae’n ehangach na hynny. Mae’n cwmpasu’r holl ystod o ymddygiad nas dymunir - hynny yw, ymddygiad nad yw’n cael ei annog na’i dderbyn gan y dioddefwr, ni waeth a fwriadwyd iddo beri tramgwydd ai peidio, ac ni waeth a yw’n ddigwyddiad unigol ynteu yn rhan o gyfres.

Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn Senedd Cymru ddangos parch mawr at urddas pobl eraill a disgwylir iddynt allu asesu a yw perygl y caiff ymddygiad ei ystyried yn amhriodol gan y person arall. Mae’r un peth yn wir i gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau i’r Senedd, gan gynnwys cynghorwyr arbenigol, a’u staff ac is-gontractwyr. Felly, gallwch gwyno o dan y polisi hwn hyd yn oed os nad ydych chi (neu’r sawl sy’n destun yr ymddygiad) wedi dweud, neu wedi dangos, wrth y person o dan sylw mai ymddygiad nas dymunwyd ydoedd.

Os yw’r dioddefwr yn ei gwneud yn glir bod yr ymddygiad yn annymunol, yna bydd ei ailadrodd neu ei barhau yn golygu torri’r polisi hwn yn fwy difrifol.

Mae’n bwysig i bobl y gellir eu dwyn i gyfrif am eu hymddygiad o dan y polisi hwn ddeall y gallai’r rhai sy’n dioddef ymddygiad penodol ei ystyried yn fygythiol, yn sarhaus neu’n dramgwyddus. Nid yw’n ofynnol bod bwriad i niweidio na pheri tramgwydd i ymddygiad amhriodol fodoli. Mae’n rhaid ystyried sut y gall geiriau a gweithredoedd effeithio ar eraill. Gall ymddygiad amhriodol gymryd sawl ffurf. Y mwyaf amlwg yw cyffyrddiad corfforol a geiriau (llafar neu ysgrifenedig). Ond mae enghreifftiau eraill yn cynnwys delweddau - gan gynnwys y rheini ar gyfrifiaduron a chlipiau fideo - ystumiau, golwg ar wyneb, dynwared, jôcs, gwneud drygau a gweithredoedd sy’n effeithio ar amgylchedd rhywun.

Fel rheol, bydd ymddygiad amhriodol yn drosedd ddisgyblu o dan gyfraith cyflogaeth a/neu yn gyfystyr â throsedd, yn ogystal â thorri’r polisi hwn. Os yw’r person sydd wedi ymddwyn yn amhriodol yn un o staff Aelod o'r Senedd neu Grŵp Gwleidyddol yn y Senedd, a gwneir cwyn o dan y polisi hwn, ystyrir sancsiynau disgyblu fel rhan o’r broses.

Os ydych chi’n credu bod yr hyn sydd wedi digwydd yn gwarantu ymchwiliad troseddol, byddem yn eich annog i roi gwybod i’r heddlu am y mater. Os nad ydych wedi gwneud hynny ac, wrth ystyried eich cwyn, ymddengys fod trosedd wedi digwydd, yna, gyda’ch caniatâd, byddwn yn rhoi gwybod i’r heddlu am y mater. Ceir rhagor o wybodaeth isod, o dan Adrodd a Gweithdrefnau.

Mathau penodol o ymddygiad amhriodol

Disgrifir rhai mathau penodol o ymddygiad amhriodol yn y Canllawiau ar Ymddygiad Amhriodol sy’n cyd-fynd â’r polisi hwn. Y diben yw helpu pobl i ddeall yn well pa fathau o ymddygiad fydd yn torri’r polisi hwn. Ond mae’n bwysig cofio bod y polisi hwn yn cwmpasu pob ymddygiad amhriodol sy’n effeithio yn andwyol ar urddas rhywun arall - hynny yw, pob ymddygiad nas dymunir.

Beth y gellir ei wneud os nad ydych am wneud cwyn ffurfiol, neu os nad ydych yn siŵr a ydych am wneud hynny?

Gallwch drafod y mater ag un o’n Swyddogion Cyswllt hyfforddedig yn gyfrinachol. Ceir rhagor o fanylion am rôl ein Swyddogion Cyswllt yn y Canllawiau ar Ymddygiad Amhriodol sy’n cyd-fynd â’r polisi hwn.

Cwynion di-sail o dan y Polisi hwn

Os ydych chi’n berson y gellir ei ddwyn i gyfrif o dan y polisi hwn, byddai’n torri’r polisi i wneud cwyn nad ydych yn credu ei bod yn wir.

Adrodd a Gweithdrefnau

Os ydych chi’n ystyried eich bod wedi dioddef ymddygiad sy’n effeithio’n andwyol ar eich urddas, mae’r polisi hwn yn nodi sut y gallwch chi wneud cwyn.

Os yw’r gŵyn yn ymwneud â rhywun o dan 18 oed, byddwn yn cymhwyso ein canllawiau diogelu plant. Mae’r rhain yn cynnwys gweithdrefnau ar wahân i ddiogelu plant a phobl ifanc.

Hefyd, fel y nodir uchod, nid pobl sydd wedi dioddef ymddygiad amhriodol yn unig a all wneud rhywbeth amdano. Mae pobl eraill sy’n credu bod ymddygiad amhriodol wedi digwydd yn gallu cwyno o dan y polisi hwn.

Os bydd yr heddlu’n ymchwilio i’r gŵyn, efallai y bydd y gweithdrefnau a amlinellir yn y polisi hwn yn cael eu hatal yn ystod ymchwiliad yr heddlu, ac unrhyw achosion troseddol sy’n deillio ohono. Os felly, byddwn yn eich hysbysu o hynny, ac yn eich hysbysu o unrhyw ddatblygiadau o dan ein rheolaeth ni.

Cynhelir ymchwiliadau yn unol â’r gweithdrefnau a gytunwyd sy’n cefnogi’r polisi hwn ac a nodir yn y canllawiau sy’n gysylltiedig â’r polisi hwn.

Cyfrinachedd

Os byddwch chi’n cysylltu ag un o’n Swyddogion Cyswllt i drafod eich pryderon ynghylch ymddygiad sy’n annerbyniol yn eich barn chi neu i ganfod sut i wneud cwyn, bydd y sgwrs honno’n gwbl gyfrinachol - ni fyddem yn datgelu eich enw, nac unrhyw fanylion am y mater a allai arwain at eich adnabod, i neb heb eich caniatâd.

Os byddwch yn penderfynu gwneud cwyn am achos o dorri’r polisi hwn, caiff y gŵyn ei thrin yn gyfrinachol hefyd. Golyga hyn y bydd eich hunaniaeth a manylion eich cwyn yn cael eu datgelu gyda’ch cydsyniad deallus chi yn unig, a hynny dim ond i’r bobl y bydd yn rhaid eu datgelu iddynt er mwyn sicrhau y gellir ymchwilio’n deg a chywir i’ch cwyn. Bydd unrhyw achos o dorri’r cyfrinachedd hwn ynddo’i hun yn cael ei ystyried yn achos o dorri’r polisi hwn a chymerir camau yn erbyn y person sy’n gyfrifol.

Yn ystod cwyn drwy un o’r llwybrau sy’n gysylltiedig â’r polisi hwn, fel arfer bydd angen datgelu pwy ydych i’r person yr ydych yn cwyno yn ei erbyn, i sicrhau y caiff ei drin yn deg. Trafodir hyn gyda chi yn gynnar yn y broses, ynghyd ag esboniad ar sut yr ymdrinnir â’ch cwyn a sut yr eir ati i ymchwilio iddi. Yn ystod pob cam o’r broses, bydd modd i chi benderfynu a ydych am fynd â’ch cwyn ymhellach ai peidio.

Ni chaiff eich achos ei drafod o gwbl, ac eithrio â’r bobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag ef a’r rhai sy’n ceisio ei ddatrys.

Os yw eich cwyn yn ymwneud ag Aelod o'r Senedd, efallai y byddwch yn penderfynu cwyno wrth Gomisiynydd Safonau Senedd Cymru. Mewn unrhyw adroddiad y bydd y Comisiynydd yn ei ysgrifennu am eich achos, gellir diogelu eich manylion adnabod. Trafodir hyn gyda chi yn gynnar yn y broses. Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, mae’n debygol y bydd eich enw wedi’i ddatgelu i’r Aelod yr ydych yn cwyno yn ei erbyn, hyd yn oed os nad yw’n ymddangos mewn unrhyw adroddiad.

Tegwch

Bydd ymchwiliad a phroses deg yn cael eu darparu ar gyfer yr unigolyn sy’n cwyno a’r person y cwynir amdano. Mae cefnogaeth ar gael i’r ddau, ac fe’i disgrifir yn y canllawiau sy’n gysylltiedig â’r polisi hwn.

Diogelu’r achwynwyr, tystion a phersonau y cwynwyd yn eu herbyn

Torrir y polisi hwn os trinnir unrhyw un yn anffafriol am wneud cwyn o dan y polisi hwn, am roi gwybod am ymddygiad amhriodol y mae’n credu iddo gael ei gyflawni yn erbyn rhywun arall, neu am fod yn dyst.

Mae’r egwyddor hon hefyd yn berthnasol i’r person y gwneir cwyn yn ei erbyn, tra bydd y mater o dan ymchwiliad ac unwaith y bydd wedi dod i ben.

Os derbynnir y gŵyn, ni fydd unrhyw sancsiynau a wneir o ganlyniad i broses deg yn golygu triniaeth andwyol. Mae’r un peth yn wir os bydd rhywun yn gwneud cwyn y mae’n credu ei bod yn anwir, ac y cymhwysir sancsiynau iddynt o ganlyniad.

Mae’r llwybrau adrodd sy’n gysylltiedig â’r polisi hwn ar gael ar ein gwefan.

Adolygu’r polisi hwn

Caiff y Polisi hwn ei adolygu o leiaf bob tair blynedd, a phryd bynnag y bo’n briodol yng ngoleuni digwyddiadau, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i adlewyrchu’r arfer gorau a’r gwersi a ddysgwyd.