Hysbysiad Preifatrwydd Prosiect y Wefan

Cyhoeddwyd 24/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddwyd 22 Medi 2020

Comisiwn y Senedd yw rheolydd data’r wybodaeth rydych yn ei darparu, a bydd yn sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei diogelu a'i defnyddio’n unol â deddfwriaeth diogelu data.

Ein manylion cyswllt

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio at Swyddog Diogelu Data y Cynulliad yn: diogelu.data@cynulliad.cymru
Ffôn 0300 200 6565

Beth yw’r data?

Nid oes rhaid i chi roi’ch enw na’ch manylion cyswllt i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, ond gallai rhai o'r atebion y byddwch yn eu rhoi gynnwys eich data personol.

Mae cwestiynau’r arolwg yn ymwneud â’r canlynol:

  • Eich profiad o ddefnyddio ein gwefan bresennol;
  • Eich profiad o ddefnyddio ein gwefan newydd (beta);
  • Faint rydych chi’n ymwneud â materion gwleidyddol, a’ch ymwybyddiaeth a’ch dealltwriaeth ohonynt.

Gallwch chi hefyd rannu eich manylion cyswllt os hoffech ein helpu yn nes ymlaen yn y Prosiect hwn, neu gyda phrosiectau tebyg yn y dyfodol. Mae hyn yn gwbl ddewisol.

Pam ydym yn casglu hyn?

Bydd y wybodaeth a gaiff ei chasglu yn cael ei defnyddio i'n helpu i ddeall y mathau o bobl sy'n defnyddio ein gwefan, a sut a pham y maent yn ei defnyddio, yn ogystal â gwella presenoldeb y Senedd ar y we.

Pwy sy'n casglu ac yn dadansoddi'r data?

Dim ond nifer gyfyngedig o staff Comisiwn y Senedd sy'n gweinyddu'r arolwg hwn fydd yn cael gweld y wybodaeth y byddwch yn ei darparu. Bydd y staff hynny yn dadansoddi'r ymatebion ac yn darparu trosolwg dienw o’r wybodaeth ystadegol i grŵp ehangach o staff y Comisiwn ac i gontractwyr cymeradwy y Senedd, a hynny er mwyn deall yr anghenion parhaus sydd gan ddefnyddwyr ein gwefan a llywio gwelliannau i'n gwefan yn y dyfodol.

A fydd y data’n cael eu rhannu neu eu cyhoeddi?

Ni fydd y wybodaeth a gyflwynir yn cael ei rhannu ag unrhyw drydydd parti. Dim ond ar ffurf ddienw y caiff gwybodaeth ei rhannu â staff ehangach a chontractwyr cymeradwy.

Ble y bydd y data’n cael eu storio?

Caiff ymatebion i'r arolwg eu casglu drwy Umbraco Forms sydd ar seilwaith gwefan y Senedd. Bydd y wybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel ar ein systemau TGCh. Mae ein system TGCh yn cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft. Mae unrhyw drosglwyddiad data gan Microsoft y tu allan i'r AEE wedi'i gwmpasu gan gymalau contract sy'n golygu y bydd Microsoft yn sicrhau y caiff data personol eu trin yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd. I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd Microsoft yn defnyddio'ch gwybodaeth, gallwch ddarllen eu polisi preifatrwydd yma.

Am ba mor hir y caiff y data eu storio?

Ar ôl i'r wybodaeth gael ei thynnu allan a'i choladu, bydd data crai yr arolwg yn cael eu cadw am hyd at flwyddyn ac yna’u dileu. Dim ond gwybodaeth ystadegol ddienw am y cwestiynau eraill yn yr arolwg fydd yn cael ei chadw ar ôl y cyfnod hwn.

Os ydych wedi dewis cael diweddariadau gennym am hyn neu brosiectau digidol tebyg, bydd eich manylion cyswllt yn cael eu storio nes i chi ddweud wrthym fel arall.

Sut y caiff y data eu dinistrio?

Ar ôl blwyddyn, bydd data crai yr arolwg yn cael eu dileu'n ddiogel o'r system TGCh.

Ein seiliau cyfreithiol dros gasglu, dal a defnyddio'ch gwybodaeth bersonol

Mae cyfraith diogelu data yn nodi amryw seiliau cyfreithiol sy'n caniatáu inni gasglu, dal a defnyddio'ch gwybodaeth bersonol. At ddibenion prosesu’r data personol rydych chi’n eu rhannu yn yr arolwg hwn, rydym yn defnyddio’r seiliau cyfreithiol canlynol:

Mae’r gwaith prosesu’n angenrheidiol er mwyn cwblhau tasg a wneir er budd y cyhoedd

Mae er budd y cyhoedd i sicrhau bod y Comisiwn yn gallu deall sut caiff ein gwefan ei defnyddio a gwella presenoldeb y Senedd ar y we er mwyn sicrhau ymgysylltiad â’r cyhoedd.

Cydsyniad

Byddwn yn dibynnu ar eich cydsyniad i ddefnyddio'r manylion cyswllt rydych chi wedi dewis eu rhoi i ni, a hynny er mwyn cysylltu â chi wrth i'r Prosiect hwn fynd yn ei flaen ac am brosiectau digidol tebyg eraill. Gallwch chi dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.

Data personol categori arbennig

Efallai y byddwn yn prosesu data personol categori arbennig fel rhan o'r arolwg hwn os byddwch chi'n dewis eu cyflwyno. Caiff data personol categori arbennig eu diffinio fel cynnwys data sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, credoau crefyddol neu athronyddol, cyfeiriadedd rhywiol a data am iechyd. At ddibenion yr arolwg hwn, byddwn yn prosesu unrhyw ddata categori arbennig perthnasol amdanoch chi ac unrhyw un arall y soniwch amdanynt yn eich ymateb.

Lle y bo'n berthnasol, bydd data categori arbennig yn cael eu prosesu ar y sail bod hynny’n angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd (fel y darperir ar ei gyfer gan Erthygl 9(2)(g) GDPR, a ddarllenir ar y cyd â pharagraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018) neu ar sail eich cydsyniad penodol.

Eich hawliau

Fel testun y data, mae gennych nifer o hawliau. Mae'r hawliau sy'n berthnasol yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol. Ni fydd yr hawliau hynny yn berthnasol ym mhob achos, a bydd y Comisiwn yn cadarnhau ai dyna yw’r achos pan fyddwch yn gwneud cais.

Mae'r hawliau'n cynnwys yr hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol eich hun, a elwir weithiau'n ‘gais am fynediad at ddata gan y testun’.

At hynny, mae gennych yr hawl i ofyn y canlynol oddi wrthym ni:

  • bod unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch yn cael ei chywiro (sylwer ei bod yn ofynnol i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw newidiadau i'ch gwybodaeth bersonol);
  • bod gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei dileu (mewn amgylchiadau penodol);
  • ein bod yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol neu mewn amgylchiadau penodol; a
  • bod eich gwybodaeth yn cael ei rhoi i chi neu drydydd parti mewn fformat cludadwy (eto, mewn amgylchiadau penodol).

Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau sydd gennych o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, gofyn cwestiwn neu gwyno am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data drwy un o’r dulliau a ddangosir uchod.

Ceisiadau am wybodaeth a wneir i’r Comisiwn

Os gwneir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r wybodaeth a gawsom gennych yn llawn neu’n rhannol. Byddwn ni’n gwneud hyn dim ond os yw’r gyfraith yn gwneud hynny’n ofynnol. Yn y sefyllfa honno, y sail gyfreithiol berthnasol fydd cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae Comisiwn y Senedd yn ddarostyngedig iddi (Erthygl 6(1)(c) GDPR).

Sut i gwyno

Gallwch hefyd gwyno i’r Swyddog Diogelu Data os ydych yn anfodlon â’r ffordd rydym wedi defnyddio eich data. Mae’r manylion cyswllt ar gael uchod.

Os byddwch, yn dilyn cwyn, yn parhau i fod yn anfodlon â'n hymateb, gallwch hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:      
       
Information Commissioner’s Office 
Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF 

Rhif y llinell gymorth: 0303 123 1113