Hysbysiad Preifatrwydd Teithio a Chynhaliaeth Pwyllgor y Senedd

Cyhoeddwyd 01/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/04/2021   |   Amser darllen munudau

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio

Comisiwn y Senedd (y Comisiwn) yw rheolwr data'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu, a bydd yn sicrhau ei bod yn cael ei gwarchod a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Ein Manylion Cyswllt

Dylid anfon ymholiadau am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym, neu am sut i arfer eich hawliau, at y Swyddog Diogelu Data: 
Tŷ Hywel, Stryd Pierhead, Bae Caerdydd CF99 1SN
diogelu.data@senedd.cymru
0300 200 6565 

Pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu?

Ar gyfer tystion allanol:

Enw'r hawlydd, Sefydliad, cyfeiriad, cod post, codau post neu fanylion eraill y cyfeiriadau yr ydych chi'n teithio iddynt ac ohonynt (sef y rhai a roddir gennych yn y ffurflen hawlio) a llofnod. Cynnwys unrhyw dderbynebau a geir.

Ffurflen yr Aelodau:

Enw’r Aelod, codau post neu fanylion eraill y cyfeiriadau rydych chi'n teithio iddynt ac ohonynt (sef y rhai a roddir gennych yn y ffurflen hawlio), cyfeiriad e-bost a llofnod.

Pam rydym yn ei chasglu?

Defnyddir ffurflen y tystion allanol i gasglu data am unrhyw dystion sydd am hawlio treuliau yr aed iddynt o ganlyniad i’r tystion fod yn bresennol mewn cyfarfod Pwyllgor yn y Senedd. Mae angen casglu’r wybodaeth hon er mwyn i'r Comisiwn brosesu'r cais am dreuliau.
Defnyddir ffurflen hawlio’r Aelodau i gasglu data am Aelodau sydd am hawlio treuliau yr aed iddynt o ganlyniad i’r Aelodau gymryd rhan ym musnes Pwyllgor y Senedd. Mae angen casglu’r wybodaeth hon er mwyn i'r Comisiwn brosesu'r cais am dreuliau.

Pwy fydd yn gallu cael gafael ar y wybodaeth?

Tîm Clercio, Uned Gydlynu a Thîm Cyllid y Comisiwn a fydd yn cadw'r ffurflen. Mae'r broses a ddefnyddir hefyd yn cael ei hegluro ar y ffurflen hawlio treuliau a gyflwynir gennych - gweler yr adran “prosesu” i gael gweld pa dimau yn y Comisiwn a fydd yn gallu gweld y wybodaeth ar eich ffurflen. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ag unrhyw sefydliadau trydydd parti.


Ble bydd y wybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd y wybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel ar ein systemau TGCh, sy'n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft. Bydd unrhyw drosglwyddiad data gan Microsoft y tu allan i'r DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth diogelu data berthnasol. Am ragor o wybodaeth am sut y bydd Microsoft yn defnyddio'ch gwybodaeth, darllenwch ei bolisi preifatrwydd yma.

Am ba hyd y cedwir y wybodaeth?

Bydd gohebiaeth rhwng y tîm clercio perthnasol a'r tystion neu'r Aelodau yn cael ei chadw am weddill y Senedd benodol honno.

Bydd y ffurflenni a anfonir gan y tîm clercio at yr Uned Cydlynu ar gyfer eu prosesu yn cael eu cadw am 7 mlynedd.

Sut y byddwn yn cael gwared ar y wybodaeth?

Yn unol â'n hamserlenni ar gyfer cadw gwybodaeth ariannol, byddwn yn cadw'r ffurflen hon am 7 mlynedd, ac wedi hynny bydd yn cael ei dileu yn ddiogel trwy broses law.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer casglu, cadw a defnyddio'ch gwybodaeth bersonol

Mae deddfwriaeth diogelu data yn nodi seiliau cyfreithiol amrywiol sy’n caniatáu i ni gasglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. At ddibenion prosesu'r data personol a ddarperir gennych yn y ffurflenni ac yn ogystal â hwy, rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol a ganlyn:

Mae angen prosesu’r data fel rhan o dasg a gyflawnir er budd y cyhoedd.

Eich hawliau

Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau. Mae'r hawliau sy'n gymwys yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol. Ni fydd yr hawliau hynny'n gymwys ym mhob achos, a bydd y Comisiwn yn cadarnhau a yw hynny'n wir ai peidio pan fyddwch chi'n gwneud cais.

Mae'r hawliau'n cynnwys yr hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol eich hun, a elwir weithiau yn 'gais gwrthrych am wybodaeth'.

Hefyd, mae gennych hawl i wneud cais gennym ni:

  • bod unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch yn cael ei chywiro (nodwch fod gofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw newidiadau o ran eich gwybodaeth bersonol);
  • bod gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei dileu (mewn rhai amgylchiadau);
  • ein bod yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol neu mewn rhai amgylchiadau; ac
  • bod eich gwybodaeth yn cael ei darparu i chi neu drydydd parti mewn fformat cludadwy (eto, mewn rhai amgylchiadau).

Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau sydd gennych o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, gofyn cwestiwn neu gwyno am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data drwy un o’r dulliau a ddangosir uchod.

Ceisiadau am wybodaeth a wneir i’r Comisiwn

Mae’r Comisiwn yn atebol i ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth. Os gwneir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r wybodaeth a gawsom gennych yn llawn neu’n rhannol. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.

Sut i gwyno

Gallwch gwyno i'r Swyddog Diogelu Data os ydych yn anhapus â sut yr ydym wedi defnyddio'ch data.  Gellir gweld y manylion cyswllt uchod.

Yn dilyn cwyn, os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon â’n hymateb, gallwch hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Cyfeiriad yr ICO yw:      
       
Information Commissioner’s Office 
Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF 

Rhif y llinell gymorth: 0303 123 1113

Newidiadau i'n hysbysiad preifatrwydd

Byddwn yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd. Gellir cael copïau papur o’r hysbysiad preifatrwydd hefyd gan y Swyddog Diogelu Data drwy’r wybodaeth gyswllt uchod. Cafodd yr datganiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Ebrill 2021.