Hysbysiad Preifatrwydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Cyhoeddwyd 09/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/04/2024   |   Amser darllen munudau

Sylwer - byddwn yn adolygu'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariad ar y dudalen hon.

Ar y dudalen hon

Pwy ydym ni

Pam rydym yn casglu'r wybodaeth hon

Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth

Beth y byddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth hon

Mynd i ddigwyddiadau a gweithdai

Digwyddiadau ar-lein

Grwpiau ffocws

Cyfweliadau

Lluniau, ffilmio a chynnwys digidol

Rhestrau dosbarthu rhanddeiliaid

Tanysgrifio i gylchlythyrau

Arolygon ar-lein

Fforymau ar-lein

Senedd Ieuenctid Cymru

Ymgysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Monitro'r cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol

Gwefan

Eich hawliau

Ceisiadau am wybodaeth a wneir i’r Comisiwn

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

 

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth:

 

Pwy ydym ni 

Comisiwn Senedd Cymru sy'n rheoli'r wybodaeth rydych yn ei rhoi, a bydd yn sicrhau y caiff y wybodaeth hon ei diogelu a'i defnyddio mewn ffordd sy'n unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data. Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio at Swyddog Diogelu Data'r Senedd yn: 

Data.Protection@Senedd.Wales

Swyddog Diogelu Data
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
0300 200 6494

 

Pam rydym yn casglu'r wybodaeth hon

Rydym yn ymdrechu i ymgysylltu â phobl Cymru a'r cyhoedd yn ein gwaith, a thynnu eich sylw at wybodaeth a gweithgareddau a allai fod o ddiddordeb. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn casglu gwybodaeth gan bobl rydym yn rhyngweithio â nhw wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae'r wybodaeth a gasglwn yn dod o fewn y categorïau a ganlyn:

  • Gwybodaeth gyswllt fel cyfeiriadau e-bost a ddefnyddir gennym i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am brosiectau y maent wedi cymryd rhan ynddynt, i gadarnhau archebion, a gwahodd pobl i weithgareddau a digwyddiadau y gallent fod â diddordeb ynddynt;
  • Gwybodaeth am unrhyw ddewisiadau neu ofynion y gallai fod gan unigolion neu grwpiau i gynorthwyo eu gallu i gymryd rhan yn ein gweithgaredd, er enghraifft gofynion dietegol;
  • Cynnwys digidol fel lluniau a fideos, a gasglwn yn ystod teithiau, digwyddiadau a gweithgareddau eraill i gasglu barn pobl am wahanol faterion ac i ddangos y gwaith rydym yn ei wneud i ymgysylltu â'r cyhoedd, sy'n rhan o Strategaeth Comisiwn y Senedd 2016 - 2021
  • Gwybodaeth am farn a phrofiadau pobl ynghylch amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â gwaith y Senedd;
  • Data am sut mae pobl yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein a gaiff eu defnyddio at ddibenion ystadegol a dadansoddi, at ddibenion rheoli er mwyn gweinyddu'r wefan neu i wella ein gwasanaethau.

 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth

Mae mwyafrif y wybodaeth rydym yn ei chasglu a'i defnyddio yn cael ei phrosesu at ddibenion tasgau sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd, neu o fudd sylweddol i'r cyhoedd (lle mae eich gwybodaeth bersonol yn cynnwys categori arbennig o ddata personol). Weithiau, fodd bynnag, byddwn yn dibynnu ar eich caniatâd i ddefnyddio eich gwybodaeth.

 

Beth y byddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth hon

Yn aml, caiff eich gwybodaeth ei chadw ar seilwaith TGCh y Senedd, sy'n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft. Bydd unrhyw drosglwyddiad data gan Microsoft y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd. Rydym weithiau'n defnyddio trydydd parti i gael gafael ar eich gwybodaeth, neu ei storio, a chaiff manylion ynchylch lle rydym yn defnyddio trydydd parti eu nodi isod yn yr hysbysiad hwn.

Weithiau bydd sefydliadau cyfryngau trydydd parti yn gofyn am siarad â rhai sydd wedi cyfrannu at ein gwaith. Ni fyddwn yn datgelu eich manylion cyswllt i sefydliadau cyfryngau trydydd parti heb ofyn am eich caniatâd yn gyntaf.

Mae'r manylion am sut y byddwn yn defnyddio gwybodaeth ar gyfer pob un o'n gweithgareddau gwahanol wedi'u nodi isod.

 

Mynd i ddigwyddiadau a gweithdai

Rydym yn aml yn casglu cynnwys digidol yn ein digwyddiadau. Gweler yr adran ‘Lluniau, ffilmio a chynnwys digidol’ isod i gael rhagor o wybodaeth am sut y caiff y wybodaeth hon ei defnyddio.

Weithiau byddwn yn rheoli archebion digwyddiadau drwy ddefnyddio EventBrite a Tocyn.Cymru. Mae manylion sy’n egluro sut y bydd EventBrite a Tocyn.Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth ar gael ar eu gwefan. 

Er mwyn hwyluso eich ymgysylltiad effeithiol â ni byddwn yn casglu gwybodaeth gyswllt a gwybodaeth ynghylch gofynion hygyrchedd. Byddwn yn cadw'ch manylion cyswllt ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ystyriaeth y Senedd o bwnc yr ydych wedi cyfrannu ato, a materion cysylltiedig. Ni fyddwn yn cadw eih manylion cyswllt y tu hwnt i ddiwedd y Chweched Senedd (sydd i ddod i ben yn 2026). Os nad ydych am inni gyfathrebu â chi, dylech roi gwybod hynny ar yr adeg y gwnewch eich cyfraniad. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd parti heb ofyn am eich caniatâd yn gyntaf.

 

Digwyddiadau ar-lein

Weithiau rydyn ni’n cynnal digwyddiadau ar-lein. Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn defnyddio offer meddalwedd trydydd parti fel Microsoft Teams, a Zoom. Bydd gwybodaeth ynghylch pa feddalwedd y byddwn yn ei defnyddio ar gyfer pob digwyddiad penodol yn cael ei chynnwys wrth rannu gwybodaeth am y digwyddiad.

Pan fyddwn yn defnyddio Zoom, anfonir cyfeirnod y cyfarfod a chyfrinair at y panelwyr ymlaen llaw, er mwyn caniatáu iddynt ymuno â’r cyfarfod. Wedyn, bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar ein sianeli, fel YouTube, SeneddTV, neu sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill, lle bydd pobl yn gwylio’r digwyddiad.

Bydd gofyn i banelwyr sy'n cymryd rhan mewn digwyddiadau ar-lein rannu eu manylion personol er mwyn i swyddogion y Senedd sefydlu cyfarfodydd digwyddiadau ar-lein. I gymryd rhan, bydd gofyn i banelwyr sefydlu a / neu ddefnyddio eu cyfrifon personol eu hunain ar Zoom.  Efallai y gofynnir i banelwyr hefyd rannu lluniau a / neu fideos, a gwybodaeth amdanynt eu hunain, at ddibenion hyrwyddo cyn y digwyddiad. Gall hyn gynnwys eu dolenni cyfryngau cymdeithasol ac enwau eu cyfrifon. Bydd yn ofynnol i banelwyr sy'n cael arian am eu cyfranogiad rannu rhywfaint o wybodaeth ariannol â staff mewnol er mwyn prosesu a hwyluso taliad.

Dim ond at ddibenion y digwyddiad ar-lein y maent yn cymryd rhan ynddo y defnyddir y data hwn. Bydd yr holl ddata personol a rennir yn cael eu cadw nes bydd y digwyddiad ar-lein ac unrhyw weinyddiaeth gysylltiedig â’r digwyddiad wedi dod i ben. Gellir cyhoeddi lluniau a/neu fideos a rennir gan banelwyr a'u hailosod at ddibenion hyrwyddo ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ac ar ein gwefan, ac mae’n bosibl y cedwir hwy am gyfnod amhenodol, a bydd cynnwys a gyhoeddwn i'r parth cyhoeddus yn aros yno.

Efallai y byddwn yn dewis recordio ein digwyddiadau rhithwir, ac mae’n bosibl y cyhoeddir hwy ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ac ar ein gwefan, a gallai’r wybodaeth gael ei chadw am gyfnod amhenodol, a bydd y cynnwys yr ydym yn ei gyhoeddi i'r parth cyhoeddus yn aros yno. Mae'r Senedd yn adolygu cynnwys digidol a gesglir yn rheolaidd, ac ni fydd yn cadw lluniau a fideos sy'n annhebygol o fod o unrhyw werth gweithredol yn y dyfodol.

Gall y trydydd partïon hynny ddefnyddio a storio data personol fel eich enw, eich cyfeiriad e-bost, a'ch rhif ffôn (mewn rhai achosion); eich cyfeiriad IP, a manylion am eich dyfais.

Mae Zoom yn cadw data yn yr Unol Daleithiau. Mae’n rhan o Fframwaith Tarian Preifatrwydd yr UE-UDA. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, darllenwch gadarnhad Zoom bod ei feddalwedd wedi’i hardystio gan y darian preifatrwydd.

Bydd unrhyw drosglwyddiad data gan Microsoft y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd.

Pan fydd pobl yn archebu lle i fynd i ddigwyddiadau a drefnir gennym, yn cysylltu â ni i archebu gweithdy, neu pan fyddwn yn cysylltu â grwpiau i drefnu sesiynau, byddwn yn casglu gwybodaeth gyswllt a gwybodaeth ynglŷn ag anghenion o ran hygyrchedd. Rydym yn cadw'r wybodaeth hon nes bydd gwaith gweinyddol y digwyddiad wedi gorffen. Os bydd pobl yn dewis yr opsiwn ble mae’r Senedd yn cadw eu gwybodaeth gyswllt fel y gallant gael y wybodaeth ddiweddaraf am ragor o ddigwyddiadau a gweithgareddau a drefnir gan y Senedd, byddwn yn cadw eu gwybodaeth a gallant gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu eu manylion o'n cofnodion.

 

Grwpiau ffocws

Weithiau, rydym yn trefnu grwpiau ffocws gyda'r cyhoedd i gasglu barn a sylwadau pobl ynghylch y gwaith y mae Comisiwn Senedd Cymru, neu Bwyllgorau’r Senedd, yn ei wneud. Yn y grwpiau ffocws hyn, gall staff wneud nodyn ysgrifenedig i gofnodi barn cyfranogwyr, ac ar adegau gall hyn olygu defnyddio offer sain neu recordio i helpu'r hwylusydd i wneud nodiadau cywir. Bydd y ffeil sain yn cael ei ddileu mewn modd diogel 12 mis ar ôl cynnal y grŵp ffocws.

Weithiau, rydym yn cynnal grwpiau ffocws arlein, drwy ddefnyddio Microsoft Teams. Yn y grwpiau ffocws arlein hyn, bydd aelod o staff y Senedd yn hwyluso trafodaeth gyda chyfranogwyr sydd wedi cael eu gwahodd yn benodol i gymryd rhan. Efallai y byddwn yn recordio'r grŵp ffocws arlein i’n helpu i greu cofnodion o'r sesiwn. Os bydd recordiad yn cael ei wneud, ni fyddwn yn ei rannu'n gyhoeddus, a bydd y recordiad yn cael ei ddileu 12 mis ar ôl i'r sesiwn gael ei chynnal.

Bydd crynodeb cyffredinol o'r themâu a'r materion a godwyd yn ystod grwpiau ffocws, ynghyd â dyfyniadau gan gyfranogwyr, yn cael eu cyflwyno i staff Senedd Cymru ac Aelodau o'r Senedd. Efallai y bydd y rhain hefyd yn ymddangos mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Senedd Cymru, ac mewn cynnwys hyrwyddo. Gall y deunyddiau hyn gyfeirio at grwpiau penodol sydd wedi cymryd rhan, ond ni fyddant yn rhestru enwau'r unigolion a gyfrannodd, ac ni fyddant yn cael eu priodoli i ymatebwyr unigol. Ni fydd dyfyniadau y gellir adnabod unigolion oddi wrthynt yn cael eu defnyddio.

Er mwyn hwyluso eich ymgysylltiad effeithiol â ni byddwn yn casglu gwybodaeth gyswllt a gwybodaeth ynghylch gofynion hygyrchedd. Byddwn yn cadw'ch manylion cyswllt ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ystyriaeth y Senedd o bwnc yr ydych wedi cyfrannu ato, a materion cysylltiedig. Ni fyddwn yn cadw'ch manylion cyswllt y tu hwnt i ddiwedd y Chweched Senedd (sydd i ddod i ben yn 2026). Os nad ydych am inni gyfathrebu â chi, dylech roi gwybod hynny ar yr adeg y gwnewch eich cyfraniad. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd parti heb ofyn am eich caniatâd yn gyntaf.

Mae’n bosibl y byddwn ni hefyd yn tynnu lluniau yn ystod grwpiau ffocws ar-lein - gweler yr adran 'Tynnu lluniau, ffilmio a chynnwys digidol' isod i gael manylion am sut mae'r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio a'i chadw.

 

Cyfweliadau

Weithiau byddwn yn trefnu cyfweliadau ag unigolion i gasglu barn a phrofiadau ar faterion y mae'r Senedd yn craffu arnynt. Weithiau bydd hyn yn digwydd wyneb yn wyneb, lle bydd aelod o staff y Senedd yn cyfweld aelod(au) o'r cyhoedd. Efallai y bydd y rhain hefyd yn cael eu cynnal ar-lein drwy Microsoft Teams.

Bydd cyfweliadau'n cael eu recordio gan staff y Senedd. Caiff y recordiadau gwreiddiol o gyfweliadau eu storio ar rwydweithiau TGCh diogel y Senedd, a’u dileu 12 mis ar ôl i'r cyfweliad gael ei gynnal.

Bydd y cyfweliadau gwreiddiol yn cael eu golygu, ynghyd â chyfweliadau eraill gyda gwahanol gyfranogwyr i lunio fideo a fydd yn cael ei rannu â staff perthnasol Senedd Cymru sy'n cefnogi'r prosiect penodol, ac Aelodau o'r Senedd sy'n eistedd ar y pwyllgor perthnasol sy'n ymgymryd â'r gwaith a'u staff.

Mae’n bosibl y caiff y fideo a grëwyd ac a rannwyd gyda staff ac Aelodau o'r Senedd ei weld mewn sesiynau tystiolaeth breifat yn y Senedd.

Efallai y byddwn yn penderfynu cyhoeddi'r fideo a grëwyd ar wefan y Senedd, ei ddangos ar ystad Senedd Cymru, neu ddefnyddio deunydd adnabyddadwy mewn adroddiadau, a chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol. Pan fyddwn yn gwneud hynny, bydd y fideo yn aros yn gyhoeddus am gyfnod amhenodol a bydd ar gael drwy beiriannau chwilio’r rhyngrwyd. Os penderfynwn gyhoeddi'r fideo fel hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw, ac yn gofyn i chi am eich awdurdodiad i wneud hynny.

Gallai cyfweliadau a gynhelir at ddiben arddangosfa gael eu harddangos ar ystad Senedd Cymru, neu mewn lleoliad arddangosfa deithiol a chynnwys eich enw, eich proffesiwn, eich sefydliad, eich delwedd a'ch cyfraniad cyfweliad. Cawn hefyd gyhoeddi’r cynnwys hwn ar ein gwefan, ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn deunyddiau print, yn ogystal â’i rannu’r â’r cyfryngau. Bydd hyn yn golygu y bydd eich cyfraniad yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd. Pan fyddwn yn gwneud hynny, bydd y fideo’n parhau i fod yn gyhoeddus am gyfnod amhenodol a bydd ar gael drwy beiriannau chwilio’r rhyngrwyd. Os penderfynwn gyhoeddi'r fideo fel hyn byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw, ac yn gofyn i chi am eich awdurdodiad i wneud hynny.

Er mwyn hwyluso eich ymgysylltiad effeithiol â ni byddwn yn casglu gwybodaeth am sut i gysylltu â chi. Byddwn yn cadw'ch manylion cyswllt ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ystyriaeth y Senedd o bwnc yr ydych wedi cyfrannu ato, a materion cysylltiedig. Ni fyddwn yn cadw'ch manylion cyswllt y tu hwnt i ddiwedd y Chweched Senedd (sydd i ddod i ben yn 2026). Os nad ydych am inni gyfathrebu â chi, dylech roi gwybod hynny ar yr adeg y gwnewch eich cyfraniad. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd parti heb ofyn am eich caniatâd yn gyntaf.

 

Lluniau, ffilmio a chynnwys digidol

Rydym yn tynnu lluniau ac yn ffilmio yn ystod teithiau, digwyddiadau (ar ystâd Senedd Cymru ac oddi arni), grwpiau ffocws arlein, ac yn ystod gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i gasglu barn pobl am wahanol faterion, ac i ddangos y gwaith a wnawn i ymgysylltu â'r cyhoedd. 

Gallai delweddau a lluniau fideo a gedwir gennym gael eu defnyddio, heb gyd-destun y digwyddiad a ffotograffwyd neu a ffilmiwyd, i hyrwyddo gwaith Senedd Cymru ac i ymgysylltu â phobl Cymru.

Rydym yn cyhoeddi delweddau a chynnwys fideo ar ein gwefan, ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol, a gallent ymddangos mewn deunyddiau print. Efallai y caiff ei ddangos i Aelodau o'r Senedd a staff Senedd Cymru fel tystiolaeth ar gyfer ymgynghoriadau pwyllgorau'r Senedd, a chaiff ei rannu â'r cyfryngau. 

Bydd lluniau, ffilm neu gynnwys digidol a gesglir at ddiben arddangosfa ar ystad y Senedd, neu ar gyfer lleoliad arddangosfa deithiol yn cael eu trin mewn ffordd debyg a gellid eu cyhoeddi ar ein gwefan, ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, mewn deunyddiau print a'u rhannu â’r cyfryngau. Bydd hyn yn golygu y bydd eich cyfraniad yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd.

Gellir cadw rhai delweddau a fideos (yn enwedig os oes gwerth hanesyddol neu werth busnes parhaus iddynt) am gyfnod amhenodol a bydd y cynnwys a gaiff ei gyhoeddi yn y parth cyhoeddus yn aros yno. Mae Senedd Cymru'n adolygu'n rheolaidd y cynnwys digidol a gesglir, ac ni fydd yn cadw lluniau a fideos sy'n annhebygol o fod o unrhyw werth gweithredol yn y dyfodol.

Pan fyddwn yn casglu cynnwys gan grwpiau llai neu unigolion, byddwn yn gofyn am ganiatâd pobl er mwyn sicrhau bod yr unigolion hynny yn hapus i gael tynnu eu llun, neu gael eu ffilmio.   

Os nad ydych am ymddangos mewn unrhyw luniau neu fideos, neu os hoffech ofyn cwestiwn am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, rhowch wybod i aelod o staff y Senedd cyn, neu yn ystod y gweithgaredd, neu anfonwch e-bost at cysylltu@senedd.cymru.

Ar gyfer digwyddiadau sy’n denu fwy o ddiddordeb gan y cyhoedd, weithiau mi fydd sefydliadau allanol fynychu ystâd y Senedd, megis cyfryngau newyddion a darlledwyr, i gymryd recordiadau sain a/neu fideo a/neu ffotograffau. Nid Comisiwn y Senedd yw’r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth a gesglir gan y sefydliadau hyn. Dylid gofyn yn uniongyrchol i’r sefydliadau yma am ragor o wybodaeth am sut y byddant yn prosesu data personol.

 

Rhestrau dosbarthu rhanddeiliaid

Rydym yn rheoli rhestrau dosbarthu i gysylltu rhanddeiliaid, fel y rhai sy’n gweithio mewn cymdeithas ddinesig, yn y cyfryngau, a gweithwyr proffesiynol yn y sector addysg ar faterion sy'n ymwneud â'n gwaith. Dyma'r unigolion rydym yn cysylltu â hwy mewn perthynas â'n dyletswyddau swyddogol. Rydym yn ychwanegu pobl at y rhestr hon ar ôl cael gafael ar eu gwybodaeth gyswllt ar-lein, drwy gysylltiadau proffesiynol, ac ar ôl i'r unigolion hynny gysylltu â ni i gael eu hychwanegu at y rhestr. Rydym yn adolygu'r rhestrau hyn yn achlysurol i sicrhau eu bod yn gyfredol. O bryd i’w gilydd, rydym yn rhannu’r rhestrau dosbarthu hyn ag adrannau eraill yn y Senedd sy’n cefnogi mentrau’r Senedd.

 

Tanysgrifio i gylchlythyrau

Gallwch danysgrifio i'n cylchlythyrau ar-lein, ac yn bersonol drwy fynd i wahanol weithgareddau a gaiff eu trefnu gennym. Rydym yn defnyddio MailChimp i wneud hyn. Pan fyddwch yn tanysgrifio â ni wyneb yn wyneb gan adael eich manylion cyswllt ar gardiau post, bydd staff y Senedd yn eu hychwanegu at y rhestr bostio berthnasol ar gyfer y cylchlythyr, ac anfonir neges e-bost atoch yn cadarnhau hyn.

Caiff y wybodaeth hon ei chadw nes eich bod yn dad-danysgrifio, a gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu eich enw oddi ar y rhestrau dosbarthu hyn, a rhestrau postio cylchlythyrau.

 

Arolygon ar-lein

Pan ddefnyddiwn arolygon ar-lein i gael adborth pobl ar ein gwasanaethau, neu i gael eu barn ar faterion y mae'r Senedd yn craffu arnynt, defnyddiwn y llwyfannau arolygon ar-lein a ganlyn: Ffurflenni Microsoft neu SurveyMonkey.

Bydd pob aelod o staff sy'n gweithio ar yr arolwg neu'r ymchwiliad dan sylw yn gweld yr ymatebion. Caiff adroddiad cryno yn amlinellu canfyddiadau'r arolwg ei lunio gan staff y Senedd, a chaiff ei rannu gydag Aelodau o'r Senedd a staff y Senedd, ei gyhoeddi ar ein gwefan a'i hyrwyddo ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, a bydd yn ymddangos mewn adroddiadau perthnasol. Gall hyn gynnwys dyfyniadau uniongyrchol o ymatebion, ond bydd y Senedd yn sicrhau na ddatgelir dim am bwy yw'r ymatebwyr. Bydd y wybodaeth hon yn parhau'n gyhoeddus am gyfnod amhenodol.

Ymatebion i arolygon: Caiff ymatebion i arolygon eu dileu o SurveyMonkey ddeuddeng mis ar ôl dyddiad cau'r arolwg. Mae’n bosibl y bydd angen cadw ymatebion i arolwg  ar seilwaith TGCh diogel y Senedd am gyfnod hwy, fodd bynnag, nes bod unrhyw broses adrodd ddilynol wedi'i chwblhau. Ni fyddwn yn cadw dim ymatebion i arolygon y tu hwnt i ddiwedd y Chweched Senedd (sydd i ddod i ben yn 2026).

Manylion cyswllt: Byddwn yn dal gafael ar fanylion cyswllt y rhai sy'n eu darparu, er mwyn iddynt gael diweddariad ar y prosiect penodol y maent wedi cyfrannu ato, nes bydd y prosiect wedi dod i ben (wedi'i storio ar seilwaith diogel TGCh y Senedd).

Os byddwch yn darparu eich gwybodaeth gyswllt i gael diweddariadau gennym, byddwn yn cadw'ch manylion cyswllt fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ystyriaeth y Senedd o destun eich cyfraniad, a materion cysylltiedig. Ni fyddwn yn cadw'ch manylion cyswllt y tu hwnt i ddiwedd y Chweched Senedd (sydd i ddod i ben yn 2026). Os ydych wedi ymateb i arolwg a gynhaliwyd gennym drwy Survey Monkey, byddwn yn tynnu eich manylion cyswllt oddi yno ddeuddeg mis ar ôl dyddiad cau'r arolwg. Fodd bynnag, efallai y bydd angen cadw ymatebion i arolwg am gyfnod hwy ar seilwaith TGCh diogel y Senedd, nes y bydd unrhyw broses adrodd ddilynol wedi'i chwblhau. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd parti heb ofyn am eich cytundeb yn gyntaf ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel.

I'r rhai sydd wedi gofyn am ddiweddariad pellach o ran cyfleoedd i ymgysylltu â ni ar bwnc (er enghraifft iechyd, addysg, trafnidiaeth) y prosiect y maent yn cymryd rhan ynddo, cedwir eu manylion cyswllt nes y cysylltir â ni i ddileu'r manylion ac nad ydynt yn dymuno parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf gennym.

Mae SurveyMonkey yn cymryd rhan ac wedi ardystio ei gydymffurfiad â Fframwaith Tarian Preifatrwydd yr UE-UD a Tharian Preifatrwydd y Swistir-UD. Mae manylion am sut y bydd SurveyMonkey yn defnyddio eich gwybodaeth ar gael ar ei wefan. Ceir manylion am ddiogelwch SurveyMonkey yma:

Mae manylion am sut y bydd Microsoft yn defnyddio eich gwybodaeth ar gael ar ei wefan.

 

Fforymau ar-lein

Rydym yn defnyddio llwyfannau trydydd parti gan gynnwys Loomio, a Delib i hwyluso sgwrsio ar-lein ar wahanol faterion y mae'r Senedd yn gwneud gwaith craffu arnynt, neu i roi adborth ar rai materion.

Gan ddibynnu ar natur y prosiect a phwy rydym am gael ymateb ganddynt, gall y fforymau hyn gael eu rhedeg yn breifat neu'n gyhoeddus, a gallwn ddewis cymedroli ymatebion cyn iddynt ymddangos ar y wefan. Byddwn yn amlinellu a yw'r fforwm ar-lein yn cael ei gynnal yn agored, ac a oes cymedroli'n digwydd ar gyfer pob prosiect.

Os byddwch yn ymateb i fforymau ar-lein sy'n cael eu rhedeg yn agored, bydd yr ymatebion i'w gweld yn gyhoeddus. Gall unrhyw un gymryd rhan mewn fforymau ar-lein agored (unwaith y maent wedi cofrestru drwy greu enw defnyddiwr, ac wedi darparu eu cyfeiriad e-bost). Bydd unrhyw un yn gallu gweld eich cyfraniadau mewn fforymau ar-lein agored, pa un a ydynt wedi cofrestru ar y safle ai peidio.

Wrth ymateb i fforwm caeedig, dim ond pobl eraill sydd wedi eu gwahodd i gymryd rhan all weld eich cyfraniad a chymryd rhan.

Efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddir gennych i lunio adroddiad cryno yn amlinellu'r prif themâu, ac fe rennir hwn ag Aelodau o'r Senedd a staff, a chaiff ei gyhoeddi ar ein gwefan a'i hyrwyddo ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Bydd hefyd yn ymddangos mewn adroddiadau perthnasol. Efallai y byddwn hefyd yn ymateb i chi ac yn cyfathrebu â chi am eich syniadau, eich cwestiynau a'ch sylwadau. Bydd y wybodaeth hon yn parhau'n gyhoeddus am gyfnod amhenodol.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei thynnu o'r safleoedd hyn chwe mis ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ymatebion. Byddwn yn cadw manylion cyswllt y rhai sydd wedi cofrestru ar y safle ar seilwaith TGCh y Senedd i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect maen nhw wedi cymryd rhan ynddo, ac i dynnu eu sylw at gyfleoedd eraill i ymgysylltu â'r Senedd ar y pwnc roeddent wedi ymgysylltu â ni yn ei gylch ar yr achlysur hwn. Gallwch ddat-danysgrifio ar unrhyw adeg.

I gael manylion am ddiogelwch Loomio ewch i:

https://loomio.gitbooks.io/manual/content/en/privacy_policy.html

I gael manylion am breifatrwydd Loomio ewch i:  https://www.delib.net/privacy?policy_version=v2

I gael manylion am bolisi preifatrwydd a pholisi diogelwch Delib ewch i:  https://www.delib.net/privacy?policy_version=v2

 

Senedd Ieuenctid Cymru

Rydym yn casglu gwybodaeth gan bobl ifanc sydd am gofrestru i bleidleisio, a sefyll fel ymgeiswyr yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru. I reoli hyn, rydym yn defnyddio llwyfan trydydd parti o'r enw miVoice.

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu data sy'n ymwneud â chofrestru pleidleiswyr ac enwebiad ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd Ieuenctid, gweler yr hysbysiadau preifatrwydd llawn ar y wefan.

Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner swyddogol y Senedd Ieuenctid sy'n ethol 20 o aelodau'r Senedd Ieuenctid. I ddewis y sefydliadau partner hyn, rydyn ni'n cynnal proses ymgeisio, a byddwn yn cadw'r cyflwyniadau a wneir gan y sefydliadau sy'n ymgeisio tan ddiwedd cyfnod y Senedd Ieuenctid (Mai 2024).

Byddwn hefyd yn cadw gwybodaeth yn ymwneud â'r ymgeiswyr a gaiff eu hethol a'r broses etholiadol berthnasol a weithredir gan sefydliadau partner tan ddiwedd tymor y Senedd Ieuenctid ym mis Mai 2024.

 

Ymgysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol  

Rydym yn defnyddio llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol fel rhan allweddol o'n gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd.

Yn ogystal â defnyddio'r llwyfannau hyn i roi gwybodaeth at ddibenion codi ymwybyddiaeth, rydym yn annog rhyngweithio, yn enwedig rhyngweithio y gellir ei gynnwys mewn gwaith craffu seneddol. Pan fydd hyn yn wir, byddwn yn sicrhau y byddwn yn egluro wrthych y defnyddir eich sylwadau i gyfrannu at waith craffu'r Senedd. Yn yr achosion hynny, gellir trosglwyddo'ch ymatebion i'n negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys eich enw) i staff ac Aelodau o'r Senedd, a gallant ymddangos mewn adroddiadau a deunyddiau eraill a gyhoeddir ar wefan y Senedd a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Rydym yn cymedroli ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i sicrhau eu bod yn fannau diogel a difyr i bawb.

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb efallai y byddwn yn cadw cofnod o bostiadau os yw cyfrif wedi'i flocio neu'n torri ein canllawiau cyfryngau.

Gallai fod yn wybodaeth sy’n rhan o bostiad a/neu wybodaeth am y cyfrif y daeth y postiad ohono.

Yn benodol, 'sgrinlun' o bostiad gan gynnwys testun y neges, enw'r cyfrif a'r dyddiad y cafodd ei bostio, ynghyd ag URL uniongyrchol postiadau penodol.

Caiff y wybodaeth hon ei chadw tan ddiwedd tymor presennol y Senedd.

Mae'r deunydd yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, ddelweddau, fideos (byw ac archif), ffeithluniau ac anmeiddiad. Mae'r llwyfannau a ddefnyddiwn yn cynnwys Facebook, Twitter, Instagram, YouTube, SnapChat, Wordpress a LinkedIn. Darllenwch hysbysiadau preifatrwydd y llwyfannau unigol hynny i gael manylion ynghylch sut y byddant yn defnyddio'ch gwybodaeth.

Os ydych yn rhannu ein cynnwys drwy'r cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft drwy ein hoffi ar Facebook, ein dilyn neu drydar amdanom ar Twitter, bydd y rhwydweithiau cymdeithasol hynny yn cofnodi eich bod wedi gwneud hynny a gallant osod cwci at y diben hwn. Drwy ddefnyddio'r llwyfannau hynny rydych yn cytuno â thelerau eu gwasanaeth.

Er mwyn rheoli ein rhyngweithiadau ar y cyfryngau cymdeithasol rydym yn defnyddio'r darparwyr trydydd parti a ganlyn:

Os byddwch yn anfon neges breifat neu uniongyrchol atom drwy'r cyfryngau cymdeithasol, bydd y neges yn cael ei storio gan Hootsuite am dri mis. Ni chaiff ei rhannu gydag unrhyw sefydliadau eraill. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Bolisi Preifatrwydd Hootsuite i weld sut mae'n prosesu'ch data.

Os byddwch yn anfon neges breifat neu uniongyrchol atom drwy'r cyfryngau cymdeithasol, bydd y neges yn cael ei storio gan Orlo. Ni chaiff ei rhannu gydag unrhyw sefydliadau eraill. I gael rhagor o wybodaeth dylech edrych ar Bolisi Preifatrwydd Orlo, a'i Delerau ac Amodau.

 

Monitro'r cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol

Mae'r Senedd wedi gosod nod strategol i gynyddu ei hymgysylltiad â phobl ledled Cymru ac i sicrhau bod dinasyddion wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud. Mae cyswllt â’r cyfryngau yn rhan allweddol o gyflawni'r nod hwn. Mae ein tîm cyfathrebu yn gweithio i esbonio gwaith y Senedd a'i effaith ar fywydau pobl ledled Cymru.

Mae Comisiwn y Senedd yn defnyddio dau adnodd i fonitro’r cyfryngau:

  • Pulsar, sydd â’r nod o fonitro’r cyfryngau cymdeithasol, fforymau a'r rhyngrwyd; a
  • Vuelio, sef adnodd i fonitro'r cyfryngau sy'n canolbwyntio ar safleoedd newyddion a materion cyfoes.

Mae'r adnoddau hyn yn ein helpu i ddeall cyrhaeddiad gwaith Comisiwn y Senedd a’r effaith y mae’n ei chael. Maent yn monitro ac yn dadansoddi’r sylw a roddir i weithgarwch sy'n ymwneud â'r Senedd ar nifer o sianelau cyhoeddus, gan gynnwys llwyfannau print, darlledu a digidol, a hynny yng Nghymru, ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

Bydd Pulsar hefyd yn helpu'r tîm i fonitro sgyrsiau ar-lein am y Senedd a'i gwaith, i olrhain barn pobl ac i sylwi ar faterion sy'n dod i'r amlwg. Mae'n caniatáu i Gomisiwn y Senedd gael cipolwg gwerthfawr ar safbwyntiau'r gynulleidfa, ac i ddefnyddio hynny i lywio ein gwaith cyfathrebu yn ogystal â gwaith y Senedd.

Mae'r adnoddau'n arddangos gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd sydd wedi'i llwytho i'r rhyngrwyd drwy wahanol lwyfannau’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol. I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Vuelio a Pulsar yn prosesu eich data personol, gallwch weld eu hysbysiadau preifatrwydd priodol drwy ddilyn y lincs isod:

Vuelio: Polisi Preifatrwydd | Vuelio

Pulsar: Polisi Preifatrwydd (pulsarplatform.com)

 

Gwefan

Os byddwch yn cysylltu â ni drwy'r wefan at ddibenion cofrestru, tanysgrifiadau e-bost, a gweithgareddau ymgysylltu eraill, dim ond at y dibenion hynny y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio. Mae manylion am wybodaeth a gesglir drwy ein gwefan ar gael yn Hysbysiad preifatrwydd canolog y Senedd.

 

Eich hawliau

Mae gennych hawliau penodol dros y wybodaeth sydd gennym. Mae'r rhain yn cynnwys: yr hawl i weld y wybodaeth; i'w chywiro; i'w dileu; os yw'n anghywir; i gael gwared arni; ac i gyfyngu ar ein defnydd ohoni. Ni fydd yr holl hawliau hyn yn berthnasol ym mhob achos.

Os hoffech arfer unrhyw rai o'r hawliau sydd gennych o dan ddeddfwriaeth diogelu data, neu ofyn cwestiwn neu wneud cwyn ynghylch sut y defnyddir eich gwybodaeth cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data. Mae’r manylion cyswllt ar gael uchod.

Gallwch hefyd wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn credu nad ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth yn unol â'r gyfraith. Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gael ar ei wefan

 

Ceisiadau am wybodaeth a wneir i’r Comisiwn

Os gwneir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r cyfan neu rywfaint o’r wybodaeth a roddir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a gafodd ei dileu eisoes gan y Senedd at ddibenion cyhoeddi. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.

 

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi'r fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen hon. Drwy edrych ar y dudalen hon yn rheolaidd, byddwch yn ymwybodol o'r wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill, os byddwn yn gwneud hynny o gwbl. Gellir cael copïau papur o’r hysbysiad preifatrwydd hefyd gan y Swyddog Diogelu Data.