Hysbysiad Prifatrwydd Ymchwiliadau y Comisiwn

Cyhoeddwyd 24/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddedig 12 Chwefror 2018

Pwy ydym ni

Comisiwn y Senedd yw rheolydd data y wybodaeth yr ydych yn ei darparu, a bydd yn sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei diogelu a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Pam rydym yn casglu'r wybodaeth hon

Bydd eich sylwadau yn cael eu defnyddio i lywio gwaith Comisiwn y Senedd ar ddiwygio Senedd, er enghraifft mewn perthynas â'i faint a'i drefniadau etholiadol, gweithredol a mewnol.

Yr hyn fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth a gawn gennych

Bydd staff Comisiwn y Senedd sy'n rhan o'r ymgynghoriad yn gweld y sylwadau ar eu hyd. Mae'n bosibl hefyd y bydd Comisiynwyr y Senedd ac Aelodau eraill y Senedd yn gweld y sylwadau. Bydd yr holl ymatebion i'r cwestiynau ymgynghori (gan gynnwys y rhai a gyflwynir ar bapur) yn cael eu storio yn Survey Monkey. Mae Survey Monkey weithiau'n storio gwybodaeth y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae gwybodaeth ynglŷn â sut y bydd yn defnyddio’ch gwybodaeth ar gael ar ei wefan:

Cyhoeddi sylwadau

Mae’n bosibl y bydd Comisiwn y Senedd yn cyhoeddi'ch ymateb i'r ymgynghoriad hwn, yn rhannol neu'n gyflawn, ar wefan y Senedd. Efallai y byddwn hefyd yn cyhoeddi rhannau o'ch sylwadau mewn dogfennau a gaiff eu llunio ar ôl yr ymgynghoriad ac a gyhoeddir ar wefan y Senedd. Bydd unrhyw ymatebion sy’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Senedd yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd.

Rhowch wybod os byddai'n well gennych inni beidio â chyhoeddi'ch sylwadau na dyfynnu ohonynt.

Os byddwn yn cyhoeddi sylwadau a anfonwyd gennych ar ran sefydliad, byddwn yn cynnwys eich enw, teitl eich swydd, ac enw’r sefydliad gyda’ch sylwadau. Os byddwn yn cyhoeddi sylwadau a anfonwyd gennych chi’n bersonol, ni fyddwn yn datgelu eich enw dim ond os gwnaethoch ofyn inni wneud hynny.

Pa mor hir y byddwn yn cadw'r wybodaeth a gawn gennych

Bydd yr ymatebion yn cael eu cadw ar ein system TG ddiogel ein hunain hyd nes y bydd Comisiwn y Senedd wedi gorffen yr ymgynghoriad ac unrhyw waith dilynol yn y meysydd a amlinellir yn y ddogfen hon.

Cysylltu â chi

Efallai y byddwn yn defnyddio'r manylion cyswllt a gawsom gennych i gysylltu â chi mewn perthynas â'r ymgynghoriad hwn a'ch sylwadau. Efallai y byddwn hefyd am gysylltu â chi yn y dyfodol mewn perthynas â'r ymgynghoriad hwn, eich sylwadau, a gwaith y Comisiwn ar ddiwygio'r Senedd. Rhowch wybod wrth i chi ymateb i'r ymgynghoriad a ydych am inni gadw eich manylion cyswllt a chysylltu â chi at y dibenion hyn. Os penderfynwch adael inni gysylltu ymhellach â chi, fe allwch ddewis dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy roi gwybod i ni.

Ceisiadau i Gomisiwn y Senedd am wybodaeth

Os gwneir cais am wybodaeth o dan y ddeddfwriaeth hawl i wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid datgelu'r wybodaeth a ddarparwyd gennych neu ran ohoni. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan Gomisiwn y Senedd at ddibenion cyhoeddi. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.

Eich hawliau

Bydd eich data personol yn cael eu prosesu ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd gan Gomisiwn y Senedd, hynny yw ymgynghoriad ar ddiwygio'r Senedd. Os hoffech chi: arfer unrhyw un o'r hawliau sydd gennych o dan y ddeddfwriaeth berthnasol (fel yr hawl i gael gweld gwybodaeth), gofyn cwestiwn neu wneud cwyn am y ffordd y defnyddir eich gwybodaeth, dylech gysylltu â Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth y Senedd.

Gallwch hefyd wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn credu nad ydym wedi defnyddio’ch gwybodaeth yn unol â'r gyfraith. Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gael ar ei gwefan.