Pobl y Senedd

Altaf Hussain AS

Altaf Hussain AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Gorllewin De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai | 10/10/2024

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai | 10/10/2024

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai | 10/10/2024

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai | 10/10/2024

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai | 10/10/2024

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai | 10/10/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Altaf Hussain AS

Bywgraffiad

Mae Altaf Hussain yn Aelod o Senedd Cymru sy’n cynrychioli rhanbarth Gorllewin De Cymru, wedi iddo gael ei ethol ym mis Mai 2021. Ef yw Gweinidog yr Wrthblaid dros Gydraddoldeb. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Dirprwy Chwip, ac mae ganddo gyfrifoldeb ychwanegol dros Hawliau Dynol.  Roedd eisoes yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng mis Mai 2015 a mis Ebrill 2016.

Altaf yw cynrychiolydd eiledol y Ceidwadwyr Cymreig ar y Pwyllgor Busnes a’r Pwyllgor Safonau. Yn ogystal, ef yw’r hyrwyddwr dynodedig dros bobl hŷn. Mae hefyd yn gynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynrychioli ward Pen-y-fai, ac yn gynghorydd yng Nghyngor Cymuned Uwch Newcastle.

Mae Altaf yn Llywydd Anrhydeddus i'r Ceidwadwyr yn ardal Gorllewin De Cymru, ac roedd yn aelod o fwrdd plaid y Ceidwadwyr Cymreig, gan gyflawni rôl cadeirydd ardal  Gorllewin De Cymru.

Mae Altaf wedi treulio ei fywyd gwaith cyfan yn gwasanaethu’r cyhoedd. Yn flaenorol, roedd yn llawfeddyg orthopedig ymgynghorol, gan gyflawni sawl swydd glinigol bwysig yng Nghymru a thu hwnt. Mae wedi bod yn un o gymrodorion Coleg Rhyngwladol y Llawfeddygon ers 1987 a Chymdeithas Orthopedig Prydain yn y DU ers 1985. Ers 2002, mae hefyd wedi bod yn diwtor yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Roedd Altaf yn oruchwylydd gwaith ymchwil a datblygu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful, rhwng 2005 a 2009, ac ef oedd y clinigydd arweiniol hefyd ar y grŵp llywio ar gyfer gweithredu canllawiau NICE ac ar gyfer effeithiolrwydd ac archwilio clinigol. Mae'n parhau i fod yn diwtor llawfeddygaeth orthopedig, ac mae ganddo sawl rôl olygyddol sy'n ei alluogi i helpu i lunio a phennu cyfeiriad gwaith ymchwil y dyfodol yn y maes meddygol hwn.

Mae gan Altaf record arbennig ym maes ymchwil, ac mae wedi datblygu nifer o dechnegau llawfeddygol newydd. Mae wedi cyfrannu sawl erthygl i amryw gyfnodolion rhyngwladol ac wedi cael cydnabyddiaeth fyd-eang am ei gyflawniadau.

Yn ei amser hamdden, mae Altaf yn mwynhau chwarae golff, darllen a chadw'n heini. Mae'n briod â Khalida, a fu'n feddyg teulu yn ne Cymru cyn ymddeol . Mae ganddyn nhw ddau o blant, ac maen nhw'n mwynhau treulio amser gyda'u hwyrion.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 19/05/2015 - 05/04/2016
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Altaf Hussain AS