Pobl y Senedd

David Rees AS

David Rees AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Aberafan

Y Dirprwy Lywydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith economaidd ar gymunedau lleol yn dilyn penderfyniad Tata Steel UK i fwrw ymlaen â'i gynigion i ddod â'r gwaith o gynhyrchu dur...

Tabled on 01/05/2024

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Tata yn dilyn y cyhoeddiad i gau'r ffyrnau golosg ym Mhort Talbot?

Tabled on 20/03/2024

Mae'r Senedd hon: 1. Yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan gynhyrchu dur sylfaenol yn economïau Cymru a'r DU. 2. Yn gresynu y bydd cynigion presennol Tata yn dod â chynhyrchu dur sylfaeno...

I'w drafod ar 31/01/2024

Mae'r Senedd hon: 1. Yn cefnogi pêl-droed clwb i fenywod yng Nghymru, a thîm pêl-droed cenedlaethol menywod Cymru, fel elfennau pwysig o hunaniaeth chwaraeon Cymru. 2. Yn cydnabo...

I'w drafod ar 09/06/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi economi leol Aberafan?

Wedi'i gyflwyno ar 18/03/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad i addysg bellach ac uwch i weithwyr yng Nghymru a allai fod yn bwriadu ailhyfforddi?

Wedi'i gyflwyno ar 04/03/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: David Rees AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae David yn eiriolwr cryf dros gydberthnasau da rhwng gweithwyr a'u cyflogwyr, felly mae'n credu bod gan undebau llafur rôl bwysig i’w chwarae o ran cefnogi pobl sy'n gweithio. Mae'n aelod o’r undebau llafur Unite ac Unsain, a bu hefyd yn aelod o Undeb y Prifysgolion a'r Colegau yn ystod ei yrfa addysgol. Yn sgil ei ddiddordeb academaidd ym maes cyfrifiaduron, daeth yn aelod o Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain ac yn Beiriannydd Siartredig yn ystod ei gyfnod fel academydd.

Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru, darparu gwasanaethau iechyd, addysg, datblygu economaidd ac adfywio, gan gynnwys creu rhagor o gyfleoedd twristiaeth yng nghymoedd De Cymru a gwella gwasanaethau cyhoeddus mewn cymunedau lleol.

Hanes personol

Mae David Rees yn frodor o Aberafan a chafodd ei addysg yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd lleol. Ar ôl gorffen ei astudiaethau Safon Uwch aeth i Goleg Prifysgol Caerdydd (Prifysgol Caerdydd erbyn hyn) ar gyfer ei astudiaethau israddedig a'i TAR. Ym Mhort Talbot y bu ei gartref erioed, ac erbyn hyn mae'n byw gyda'i wraig yng Nghwmafan, Port Talbot. Mae ganddynt ddwy ferch, a gafodd eu haddysg yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol, a phump o wyrion.

Mae gan David radd anrhydedd mewn Peirianneg Sifil a Strwythurol o Brifysgol Caerdydd, yn ogystal â chymhwyster addysgu ôl-raddedig a gradd meistr mewn Cyfrifiadureg.

Cefndir proffesiynol

Ar ddechrau ei yrfa, bu David yn athro mathemateg a chyfrifiadureg yn Ysgol Gyfun Cynffig, Mynydd Cynffig, ac yna bu'n ddarlithydd mewn cyfrifiadureg yng Ngholeg Afan. Yna, aeth i faes addysg uwch fel uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg, a chyn iddo gael ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2011, datblygodd ei yrfa er mwyn dod yn Ddeon Cynorthwyol y Gyfadran ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe (sydd bellach yn rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant). Yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, bu David yn gadeirydd cydbwyllgor yr undeb llafur ac yn aelod lleyg o bwyllgor rhanbarthol Cymru o UCU (NATFHE) gan gynrychioli aelodau o bob rhan o'r sefydliad.

Mae David wedi dangos diddordeb parhaus mewn llywodraethu addysgol ac wedi bod yn llywodraethwr staff yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe (fel y'i gelwid bryd hynny) a Choleg Afan (fel y'i gelwid bryd hynny), ynghyd â rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.

Hanes gwleidyddol

Yn 2011 y cafodd David ei ethol gyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan olynu Dr Brian Gibbons fel yr Aelod Cynulliad Llafur dros Aberafan. Yn ystod pedwerydd tymor y Cynulliad bu David yn cadeirio'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a bu hefyd yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Menter a Busnes, Pwyllgor yr Amgylchedd a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Bu hefyd yn gadeirydd grwpiau trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg, Iechyd Meddwl a Chymunedau Diwydiannol.

Yn 2016, ail-etholwyd David i gynrychioli Aberafan yn y Senedd.  Yn ystod y Bumed Senedd, bu David yn cadeirio’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a bu hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.  Parhaodd i gadeirio’r grwpiau trawsbleidiol ar STEMM ac Iechyd Meddwl, a bu hefyd yn cadeirio grwpiau trawsbleidiol ar Ddur, Nyrsio a Bydwreigiaeth a Chanser, tra’r oedd yn aelod o sawl grŵp arall.

Yn 2021, cafodd David ei ailethol unwaith eto i gynrychioli ei dref enedigol yn y Chweched Senedd, ac fe'i etholwyd yn Ddirprwy Lywydd yn dilyn hynny.

Ers ymuno â'r Blaid Lafur ym 1982, mae wedi dal nifer o swyddi o fewn y blaid yng Nghymru, yn ogystal â'i undebau llafur.

Cyn cael ei ddewis i gynrychioli etholaeth ei gartref yn 2011, bu David yn ymgeisydd y Blaid Lafur yn sir Frycheiniog a Maesyfed yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2003, ac yn ymgeisydd ar restr Gorllewin De Cymru yn etholiad 2007.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: David Rees AS