Pobl y Senedd

Dawn Bowden AS

Dawn Bowden AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Merthyr Tudful a Rhymni

Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Dawn Bowden yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Dawn Bowden yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru:

Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

 

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Y Bil Diogelwch Ar-Lein i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfw...

I'w drafod ar 20/06/2023

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol i’r graddau y maent yn...

I'w drafod ar 13/06/2023

Mae'r Senedd hon: 1. Yn nodi bod Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, dan arweiniad Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, yn dathlu gofalwyr ifanc ledled y DU. 2. Yn dathlu'r cyfraniadau a w...

I'w drafod ar 18/03/2021

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ym Merthyr Tudful a Rhymni?

Wedi'i gyflwyno ar 25/02/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi datblygiad economaidd canol trefi ym Merthyr Tudful a Rhymni?

Wedi'i gyflwyno ar 24/02/2021

Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y UE a'r DU ar gymoedd de Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 24/02/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Dawn Bowden AS

Bywgraffiad

Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Prif ddiddordeb Dawn o ran chwaraeon yw pêl-droed. Bu’n gefnogwr tîm ei thref enedigol, Bristol City, gydol ei hoes ac mae’n dal i deithio i gemau yno pan fydd amser yn caniatáu.  Fodd bynnag, mae hi hefyd yn ddeiliad tocyn tymor Clwb Pêl-droed Tref Merthyr ac mae ganddi ddiddordeb brwd yn y rhan fwyaf o chwaraeon lleol yn ei hetholaeth.

Teithio yw yn un arall o ddiddordebau hamdden Dawn, yn enwedig os yw'n golygu bod yn yr Eidal. Dechreuodd ei hoffter o’r Eidal pan aeth yno ar daith ysgol a hithau ond yn 12 oed. Treuliodd ei mis mêl yno ac mae wedi treulio llawer o wyliau mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Ynghyd â hoffter Dawn o’r Eidal mae ei hoffter o fwyd Eidalaidd.

Yn ei hamser hamdden, mae Dawn hefyd yn hoffi darllen, gwrando ar gerddoriaeth a threulio amser gyda'i theulu sydd wedi’u lledaenu ar draws de Cymru, gogledd Cymru a gorllewin Lloegr.

Hanes personol

Cafodd Dawn ei geni a'i magu ym Mryste. Mae’n dod o deulu dosbarth gweithiol traddodiadol ac roedd ei rhieni yn undebwyr llafur ac yn aelodau o'r Blaid Lafur. Mae ganddi un brawd. 

Mynychodd Dawn Ysgol Uwchradd Gatholig y Santes Bernadette ac astudiodd hyd at lefel TGAU.  Ar ôl gadael yr ysgol, aeth i Goleg Technegol Soundwell lle’r enillodd gymwysterau mewn astudiaethau busnes, ysgrifenyddol a’r gyfraith. Yn ddiweddarach enillodd gymhwyster Diploma y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth drwy astudio gyda'r TUC.

Ym 1989, symudodd Dawn i dde Cymru lle y ganwyd, magwyd ac addysgwyd ei dau fab ac maent yn dal i fyw a gweithio yno. Mae hi wedi bod yn briod â Martin ers 2011.

Cefndir proffesiynol

Swydd gyntaf Dawn ar ôl gadael y coleg oedd fel ysgrifenyddes i Reolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Guest Keen and Nettlefold Distributors ym Mryste.

Symudodd oddi yno i weithio fel ysgrifenyddes feddygol yn y GIG cyn treulio cyfnod byr o amser yn gweithio fel swyddog Llywodraeth Leol. Yn ystod y blynyddoedd hyn o gyflogaeth yn y sector cyhoeddus y daeth Dawn i ymwneud yn weithredol â’i hundeb llafur, NALGO (a ddaeth yn ddiweddarach i fod yn UNSAIN).

A hithau ond yn 23 oed, penodwyd Dawn yn Drefnydd Cangen llawn-amser i NALGO, gan weithio gydag aelodaeth GIG yr undeb ym Mryste. Ym 1989, symudodd i dde Cymru i ddod yn Swyddog Ardal benywaidd cyntaf ac ieuengaf yr ardal.  Cododd drwy rengoedd ei hundeb i ddod yn Bennaeth Iechyd UNSAIN Cymru, swydd y bu ynddi hyd at ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Ferthyr Tudful a Rhymni ym mis Mai 2016. Mae hi'n cyfrif arwain y trafodaethau a gyflwynodd y Cyflog Byw i GIG Cymru yn 2014 ymysg ei llwyddiannau mwyaf balch.

Yn ei rolau gyda’r undeb, bu Dawn yn eiriolwr, trafodwr, siaradwr cyhoeddus ac ymgyrchydd dros aelodau a oedd yn gweithio’n bennaf yng ngwasanaethau sector cyhoeddus Llywodraeth Leol, Iechyd, Addysg Uwch ac Addysg Bellach, yn ogystal â chyfleustodau preifat nwy, dŵr a thrydan a’r sector gwirfoddol. Roedd ganddi hefyd gyfrifoldeb rheoli dros dîm mawr o drefnwyr UNSAIN a oedd yn cwmpasu canolbarth a de ddwyrain Cymru.

Gweithiodd Dawn gyda nifer o sefydliadau gan gynrychioli ei hundeb, gan gynnwys Fforwm Partneriaeth GIG Cymru, NJC Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Partneriaeth y Gweithlu Llywodraeth Cymru. Byddai’n mynychu ac yn annerch yng Nghynadleddau TUC Cymru a Phlaid Lafur Cymru fel cynrychiolydd UNSAIN yn rheolaidd.

Hanes gwleidyddol

Ymunodd Dawn â'r Blaid Lafur ym l983. Mae hi hefyd yn aelod o’r Gymdeithas Iechyd Sosialaidd ac yn aelod o UNSAIN, undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cafodd ei safbwyntiau gwleidyddol eu llunio gan ei magwraeth a chan ei rhieni a oedd yn undebwyr llafur ac yn aelodau o'r Blaid Lafur.

Yn ystod streic y glowyr rhwng l984 a 1985, gweithiodd Dawn gyda TUC y De Orllewin i gasglu arian a bwyd i gefnogi glowyr de Cymru.

Streic y glowyr ac anghydfod diwydiannol eraill yn ystod yr 1980au a’i gyrrodd i fyd gwleidyddiaeth. Ymunodd â CND ym l984 ac ym mis Ebrill l986 enillodd isetholiad yn ward Staple Hill, a oedd yn ward Geidwadol ar y pryd, i ddod yn Gynghorydd Llafur ar Gyngor Dosbarth Kingswood a hithau ond yn 26 oed. Gwasanaethodd Dawn ar bwyllgorau Polisi, Tai, Personél (Cadeirydd Cysgodol), Iechyd yr Amgylchedd a Chynllunio.

Mae Dawn wedi gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol a enwebwyd gan yr awdurdod lleol dros Lafur mewn ysgolion uwchradd a chynradd. Bu hefyd yn Gynghorydd Cymuned Llafur ym Mhontyclun lle'r oedd yn byw cyn ei hethol yn Aelod Cynulliad ym Merthyr Tudful a Rhymni. Safodd hefyd fel ymgeisydd Llafur dros ward Pontyclun o Gyngor Rhondda Cynon Taf yn 2004.

Mae Dawn wedi mynychu ac wedi siarad yng nghynadleddau Plaid Lafur Cymru a chynadleddau Plaid Lafur y DU yn rheolaidd.

Diddordebau gwleidyddol

Yn nhymor diwethaf y Senedd, bu Dawn yn aelod o’r Pwyllgorau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon; Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol; Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig; Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; a Chydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Bu hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio’r Senedd ac yn cynrychioli Senedd Cymru yng Nghyngres Rhanbarthau Ewrop ac roedd yn Aelod o Dasglu’r Cymoedd.

Ar ddechrau tymor hwn o’r Senedd, ymunodd Dawn â Llywodraeth Cymru yn Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ac yn Brif Chwip.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Dawn Bowden AS