Pobl y Senedd

Gareth Davies AS

Gareth Davies AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Dyffryn Clwyd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A yw Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai awdurdodau lleol ofyn am gyngor gan Raglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau ar wella cynaliadwyedd?

Wedi'i gyflwyno ar 04/10/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o adroddiad Llesiant Cymru 2024 a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf sy'n dangos bod tebygolrwydd uwch o hyd y bydd plant yng Nghymru mewn...

Tabled on 02/10/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith tipio anghyfreithlon yn Nyffryn Clwyd?

Wedi'i gyflwyno ar 02/10/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau bod gogledd Cymru yn cael ei chynrychioli yng nghyllideb yr hydref?

Wedi'i gyflwyno ar 02/10/2024

A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r bwriad i barhau i ddynodi hen safle Pontins Prestatyn ar gyfer defnydd lletygarwch?

Wedi'i gyflwyno ar 26/09/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dwyn awdurdodau lleol i gyfrif am aneffeithlonrwydd, gwastraff a chamreoli ariannol?

Wedi'i gyflwyno ar 26/09/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Gareth Davies AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Gareth wedi ymrwymo i wella bywydau pobl sy'n byw yn Nyffryn Clwyd. Mae'n awyddus i wella mynediad at ofal iechyd ledled yr etholaeth a sicrhau bod cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae Gareth yn eiriolwr cryf dros chwaraeon ar lawr gwlad ac mae'n credu bod chwaraeon tîm yn ffordd o fynd i'r afael â materion iechyd meddwl yn ogystal â'r argyfwng gordewdra sy’n wynebu ein cenedl.

Hanes personol

Mae Gareth wedi byw yn Nyffryn Clwyd ar hyd ei oes. Cafodd ei eni a'i fagu yn Llanelwy, yna symudodd i'r Rhyl, ac mae bellach yn byw ym Mhrestatyn gyda'i wraig a'u mab ifanc.

Cefndir proffesiynol

Ers dros ddegawd mae Gareth wedi gweithio i'r GIG, lle y byddai’n cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl ac anableddau dysgu cyn iddo symud i faes ffisiotherapi.

Arall

Mae Gareth yn Gynghorydd Sir Ddinbych ac yn Gynghorydd Tref dros ward De-orllewin Prestatyn.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Gareth Davies AS