Pobl y Senedd

James Evans AS

James Evans AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Brycheiniog a Sir Faesyfed

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi nad yw'r cyfrifoldeb dros ddeddfu i ganiatáu cymorth i farw wedi ei ddatganoli i Gymru, gan ei fod ar hyn o bryd yn fater a gaiff ei lywodraethu gan gyfra...

I'w drafod ar 13/09/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pensiynwyr a fydd yn colli eu taliadau tanwydd gaeaf?

Wedi'i gyflwyno ar 11/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet egluro cynlluniau ar gyfer cyfyngu ar fargeinion prydau bwyd â chynnwys braster, siwgr neu halen uchel yn dilyn datganiad Llywodraeth Cymru i'r wasg ar 27...

Wedi'i gyflwyno ar 07/08/2024

A wnaiff Llywodraeth Cymru gadarnhau a fydd gostyngiadau dros dro mewn prisiau ar gynhyrchion sy'n uchel mewn braster, siwgr a halen mewn manwerthwyr sydd â mwy na 50 o aelodau o staff yn...

Wedi'i gyflwyno ar 07/08/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol y tir amaethyddol a'r anheddau preswyl a'r adeiladau allanol yn Fferm Gilestone?

Wedi'i gyflwyno ar 31/07/2024

Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd Araith y Brenin yn ei chael ar bobl Cymru?

Tabled on 17/07/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: James Evans AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae James wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ac i Ganolbarth Cymru. Boed drwy gefnogi a datblygu busnesau, neu drwy sicrhau bod gofal iechyd a gwasanaethau eraill o safon ar gael yn lleol. Mae hon yn ardal sy’n cael ei hesgeuluso’n aml o ran cyllid a buddsoddiad ac mae James am dynnu sylw at y cyfleoedd gwych sydd ar gael ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Mae James yn chwaraewr rygbi brwd ac mae’n falch o’r cyfnod a dreuliodd fel capten ail dîm Clwb Rygbi Gwernyfed. Mae James yn mwynhau cadw’n ffit ac yn mynd i’r gampfa’n aml. Mae’n falch iawn o’i gi Daisy ac yn mwynhau cerdded drwy gefn gwlad godidog yr etholaeth gyda hi.

Hanes personol

Cafodd James ei eni a’i fagu yn etholaeth fendigedig Brycheiniog a Sir Faesyfed. Cafodd ei fagu ar fferm ei deulu ac mae’n frwd iawn dros yr awyr agored, amaethyddiaeth a diogelu’r rôl bwysig sydd gan ddiwydiant yn ein hardal. Yn ei arddegau, treuliodd James gryn amser ar hyd yr etholaeth gyda’r Ffermwyr Ifanc, yn gwneud ffrindiau, meithrin partneriaethau a datblygu sgiliau bywyd. Ni wnaeth James ddilyn y llwybr traddodiadol i fyd gwleidyddiaeth, gan ddewis peidio mynd i’r Brifysgol a dysgu drwy brofiad gwaith yn lle hynny. Mae’n benderfynol o sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r etholaeth.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, cafodd James ei ethol fel Cynghorydd Sir dros ward Gwernyfed ac yna’n aelod o gabinet Cyngor Sir Powys. Ym mis Mai 2021, cafodd ei ethol yn Aelod o’r Senedd i gynrychioli ei gartref ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, a dyna uchafbwynt ei fywyd gwleidyddol. Ar hyn o bryd, James yw Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd, Llesiant a Chanolbarth Cymru, ac mae’n falch iawn o fod yn gyfrifol am y portffolio hwn.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: James Evans AS