Pobl y Senedd

Samuel Kurtz AS

Samuel Kurtz AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o Gynllun Twf Cynaliadwy a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Bartneriaeth Porth y Gorllewin, a sut y gallai hyn gefnogi datblygiad economaidd ar...

Wedi'i gyflwyno ar 30/10/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar yr effaith y bydd newidiadau i'r rhyddhad eiddo amaethyddol yn ei chael ar hyfywedd ffermydd Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 28/10/2024

A yw Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn bwriadu rhoi mynediad i athrawon at gynllun aberthu cyflog i brynu car ecogyfeillgar newydd?

Wedi'i gyflwyno ar 28/10/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio mwy o staff i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, yn dilyn adroddiadau bod meddygon teulu a staff yn teimlo'n ddigalon ac yn anniogel oherwyd...

Tabled on 23/10/2024

Ymhellach i WQ94397, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pa ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru a fynychwyd gan y cwmni yn yr ateb, gan gynnwys dyddiadau, lleoliadau ac...

Wedi'i gyflwyno ar 21/10/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar borthladdoedd Cymru yn sgil y cyhoeddiad gan Gwmni Porthladd Bryste am eu buddsoddiad yn eu cyfleuster porthladd i adeiladu...

Wedi'i gyflwyno ar 21/10/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Samuel Kurtz AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Samuel yn eiriolwr cryf dros gefn gwlad Cymru a'r Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae’n is-gadeirydd ar Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro ac mae wedi ennill sawl cystadleuaeth ar lefel Cymru ac ar lefel genedlaethol, gan gynnwys siarad cyhoeddus, adloniant ar lwyfan a materion gwledig. Mae Samuel yn frwd dros chwaraeon, ac mae’n mwynhau chwarae criced, rygbi a phêl-droed.

Hanes personol

Wedi'i eni a'i fagu ar y fferm deuluol gydag unedau gwyliau hunanarlwyo yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Samuel yn siaradwr Cymraeg a fynychodd ysgolion lleol cyn mynd ymlaen i astudio BA Anrhydedd mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl graddio, dychwelodd Samuel i Sir Benfro i weithio fel gohebydd i'r Pembrokeshire Herald a'r Western Telegraph, cyn dechrau swydd yn swyddfa'r Aelod Seneddol lleol.

Hanes gwleidyddol

Mae Sam wedi cynrychioli ward Scleddau ar Gyngor Sir Penfro ers 2017 a chafodd ei ethol fel Aelod o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ym mis Mai 2021.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Digwyddiadau calendr: Samuel Kurtz AS