Pobl y Senedd

Siân Gwenllian AS

Siân Gwenllian AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Arfon

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa gynlluniau fydd yn cael eu sefydlu o dan adrannau 27 ac 28 o'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ynghylch annog amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth etholedig, a pha gyllideb fydd yn...

Wedi'i gyflwyno ar 28/08/2024

A yw'r ffigwr yn Nghynllun Ieithoedd Swyddogol: Adroddiad Blynyddol 2023-24 Senedd Cymru o 34 dogfen a gyhoeddwyd gan bwyllgorau'r Senedd yn Saesneg yn unig yn cynnwys adroddiadau pwyllgo...

Wedi'i gyflwyno ar 28/08/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer brechu yn wyneb y straen diweddaraf a’r adroddiadau am ledaeniad MPox?

Wedi'i gyflwyno ar 28/08/2024

Ymhellach i WQ93695, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu ffigurau Cam 1 a Cham 2 yr ehangiad ar gyfer Gwynedd wedi’u torri lawr yn ôl ardal gynnyrch ehangach haen?

Wedi'i gyflwyno ar 28/08/2024

Pa ystyriaeth mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i roi i argymhelliad Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd y dylai CBAC gyhoeddi bob blwyddyn faint o ymgeiswyr sydd yn cwblhau papurau ar...

Wedi'i gyflwyno ar 28/08/2024

A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet ddarparu gwybodaeth ynghylch a) faint o geisiadau penodiadau cyhoeddus ers 2019 oedd gan siaradwyr Cymraeg, fel canran o’r holl geisiadau; a b) faint o’r c...

Wedi'i gyflwyno ar 21/08/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Siân Gwenllian AS

Bywgraffiad

Diddordebau a llwyddiannau

Etholwyd Siân i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016. Mae’n cynrychioli etholaeth Arfon fel aelod o Blaid Cymru. Cafodd ei hail-ethol i Senedd Cymru yn 2021, gan ddyblu ei mwyafrif gyda 63.3% o’r bleidlais – y ganran uchaf o unrhyw ymgeisydd ar draws Cymru. Mae ei diddordebau y tu allan i wleidyddiaeth yn cynnwys theatr, celf, y sîn gerddoriaeth Gymraeg, pêl-droed a rygbi.

Hanes personol

Addysgwyd Siân yn Ysgol Friars, Bangor ac ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Ar ôl colli ei gŵr magodd ei 4 o blant ar ei phen ei hun. Mae hi wedi bod yn ymgyrchydd angerddol dros gydraddoldeb merched ar Gymraeg ers dros 45 mlynedd.

Cefndir proffesiynol

Bu Siân yn gweithio fel newyddiadurwraig gyda'r BBC, HTV a Golwg. Bu hefyd yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus gan gynnwys fel swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd.

Hanes gwleidyddol

Rhwng 2008 a 2016 bu’n gwasanaethu fel cynghorydd ar Gyngor Gwynedd, gan gynrychioli’r pentref lle cafodd ei magu, y Felinheli. Ar hyn o bryd mae’n dal y portffolio Tai a Chynllunio ar gyfer Plaid Cymru (2024-) yn dilyn ei rôl fel yr Aelod Arweiniol Dynodedig ar y Cytundeb Cydweithio (2021-2024) rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru. Yn ystod pedwerydd a phumed tymor y Senedd mae hi wedi dal portffolios polisi amrywiol i Blaid Cymru gan gynnwys Addysg, Llywodraeth Leol a Chynllunio, a’r Gymraeg a Diwylliant, a bu’n Gomisiynydd Senedd y Blaid, Trefnydd, Prif Chwip a Dirprwy Arweinydd yn y Senedd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Siân Gwenllian AS