Pobl y Senedd

Sioned Williams AS

Sioned Williams AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Gorllewin De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Faint o bensiynwyr ychwanegol yng Nghymru y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl fydd yn cael eu gwthio i dlodi o ganlyniad i doriad Llywodraeth y DU i'r lwfans tanwydd gaeaf?

Wedi'i gyflwyno ar 11/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddatguddiadau diweddar yn ymwneud ag ansawdd gofal yng Ngwasanaethau Mamolaeth Bae Abertawe?

Tabled on 17/07/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru i gyrraedd targedau sero net?

Wedi'i gyflwyno ar 10/07/2024

Diogelu'r croen: rôl ysgolion wrth atal canser y croen.

I'w drafod ar 25/06/2024

Sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau nad yw unrhyw brosiectau y mae'n eu hariannu'n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd lleol?

Wedi'i gyflwyno ar 12/06/2024

Mae'r Senedd hon: 1. Yn nodi Wythnos Gofalwyr 2024 (10-16 Mehefin) a’r thema eleni, sef Rhoi Gofalwyr ar y Map. 2. Yn cydnabod y cyfraniad hollbwysig a wneir gan ofalwyr di-dâl at fywyd...

I'w drafod ar 10/06/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Sioned Williams AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Magwyd Sioned Williams yng nghymoedd Gwent ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae hi'n byw yn yr Alltwen, yng Nghwm Tawe gyda'i gŵr Daniel a'u dau blentyn sydd yn eu harddegau. Mae Sioned yn rhugl yn y Gymraeg. Ar ôl graddio mewn Cymraeg a Saesneg o Brifysgol Aberystwyth, dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth T.Glynne Davies S4C i astudio ar gyfer diploma ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cefndir proffesiynol

Roedd Sioned yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru cyn mynd i weithio i Brifysgol Abertawe fel Swyddog Polisi Iaith ac yna fel Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn Academi Hywel Teifi. Fel rhan o’i gwaith yn y Brifysgol, bu’n helpu i sefydlu a chyd-reoli Tŷ’r Gwrhyd, canolfan iaith Gymraeg Cwm Tawe a Nedd. Mae hi hefyd wedi gweithio i Blaid Cymru fel Pennaeth Cyfathrebu Strategol. Mae Sioned yn adolygydd a sylwebydd adnabyddus ar ddarlledu a'r celfyddydau ac mae wedi beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae hi'n gyn-aelod o Fwrdd a chyn-Gadeirydd Panel Bwrsariaethau Llenyddiaeth Cymru.

Hanes gwleidyddol

Roedd Sioned yn Gynghorydd Cymuned dros yr Alltwen ac yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll cyn cael ei hethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru yn Etholiad 2021.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Sioned Williams AS