Ty allan y Senedd

Ty allan y Senedd

Anableddau anweledig a'r Senedd

Cyhoeddwyd 03/12/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/12/2021   |   Amser darllen munudau

“Pan nad yw rhywun yn edrych yn sâl, mae'n hawdd tybio eu bod nhw'n ddiog neu'n ddi-hid neu nad ydynt yn meddwl am eraill. Ond pan fyddaf yn mynd i'r toiledau hygyrch, mae’n amlwg oherwydd bod gen i fy mag ostomi ac mae angen ychydig yn rhagor o le a dŵr rhedeg arnaf."  

Sam Cleasby, Ymgyrchydd Anabledd

 

Beth yw ystyr anabledd anweledig?

Nid yw’r mwyafrif o namau yn weladwy.  O'r miliynau o bobl anabl sy'n byw yn y DU, dim ond canran fach sydd â salwch y gellir ei weld. Mae'r bobl hyn yn byw gydag anabledd anweledig.

Mae anableddau anweledig yn cyfeirio at amrywiaeth eang o gyflyrau a salwch nad ydyn nhw'n amlwg nac yn weladwy ar unwaith. Mae’r cyflyrau hyn yn cynnwys: camweithrediadau gwybyddol; anafiadau i'r ymennydd; anawsterau dysgu; epilepsi; canser; diabetes, clefyd y crymangelloedd, ffibromyalgia; HIV; AIDS; problemau gastroberfeddol; enseffalopathi myalgig neu enseffalomyelitis myalgig (ME); cyflyrau iechyd meddwl, yn ogystal â nam ar y clyw neu’r golwg, ac eraill.

Mae'n werth nodi y gall rhywun sydd â nam gweledig neu sy'n defnyddio dyfais gynorthwyol fel cadair olwyn, teclyn cymorth cerdded neu ffon fod ag anableddau anweledig yn ogystal, er enghraifft, gallai fod gan berson mewn cadair olwyn gyflwr iechyd meddwl hefyd.

Beth yw'r heriau yn sgil byw gydag anabledd anweledig?

Fel unrhyw berson anabl, mae person sy'n byw gydag anabledd anweledig yn wynebu stigma, allgáu a gwahaniaethu, a'r dasg gyson o herio camsyniadau am eu cyflyrau.

Efallai na fydd pobl ag anableddau anweledig bob amser yn profi gwahaniaethu yn yr un modd â rhywun ag anabledd amlwg, fodd bynnag. Gallant hefyd wynebu rhwystrau fel cael eu cyhuddo ar gam o ddefnyddio toiledau hygyrch, lleoedd parcio i'r anabl, a chyfleusterau eraill.

Mae gan berson ag anabledd anweledig hawl i beidio ag egluro ei salwch i ddieithryn.  I lawer o bobl ag anableddau anweledig, nid yw defnyddio toiledau hygyrch neu fannau parcio i'r anabl yn foethusrwydd nac yn fraint. Mae'n anghenraid iddyn nhw fyw eu bywydau.

Heb os, nid yw'r bobl sy'n barnu yn gwneud hynny oherwydd malais, ond maen nhw wir yn credu eu bod nhw'n amddiffyn hawliau pobl sydd mewn angen. Ond hyd yn oed os yw'r dybiaeth honno'n tarddu o garedigrwydd, mae'n well peidio â gwneud rhagdybiaethau. Efallai eich bod chi'n meddwl eich bod chi'n gwneud y peth iawn, ond fe allech fod yn gwneud pethau’n waeth i rywun sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.

Anableddau Anweledig a’r Senedd [1] 

Fel cyflogwr rydyn ni’n cydnabod bod nifer y rhai a nododd anabledd yn 2019 i 2020 yn y DU yn 14.1 miliwn o bobl[2]. Felly, mae gan 22 y cant o bobl anabledd yn genedlaethol. Rydym yn deall bod annog ceisiadau gan bobl anabl yn beth da i fusnes. Gall ein helpu i:

  • Gynyddu nifer yr ymgeiswyr o ansawdd da sydd ar gael.
  • Creu gweithlu sy'n adlewyrchu'r amrywiaeth o gwsmeriaid rydyn ni'n eu gwasanaethu a'r gymuned rydyn ni wedi'i lleoli ynddi, a
  • Dod â sgiliau ychwanegol i'r sefydliad. Mae’r costau o wneud addasiadau rhesymol i ddarparu ar gyfer gweithwyr anabl yn aml yn isel. Mae’r manteision o gadw gweithiwr profiadol, medrus sydd wedi caffael nam fel arfer yn fwy na chostau recriwtio a hyfforddi staff newydd. Mae hefyd yn dda i'r unigolyn.

Dyna pam mae’r Senedd wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal i staff y Comisiwn, i Aelodau o’r Senedd, i'w staff ac i bobl Cymru. Rydym yn ymdrechu i fod yn sefydliad cynhwysol sy'n gwerthfawrogi pawb sy'n gweithio yma, a hynny gan gynnwys eu safbwyntiau, eu sgiliau amrywiol a’u hamrywiol gefndiroedd. I'r perwyl hwnnw rydym yn falch o fedru darparu:

  • Amrywiaeth o gyfleusterau ar y safle i sicrhau ein bod yn sefydliad hygyrch: gan gynnwys dewis o gyfleusterau toiled gwahanol, fel toiledau niwtral o ran rhyw, toiledau hygyrch, cyfleuDisability confident employer logoster Changing Places gyda theclyn codi i oedolion, a thoiledau ar gyfer pobl â phroblemau symud. I gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleusterau hygyrch, ewch i Ganllaw Euan, sef gwefan yr adolygiad o fynediad ar gyfer pobl anabl.
  • Polisïau gwych, fel gweithio hybrid, gweithio hyblyg, gan gynnwys seibiant gyrfa, gweithio rhan-amser, rhannu swydd, gweithio yn ystod y tymor, gweithio oriau cyddwys ac absenoldeb arbennig.
  • Dangoswyd i bobl ein bod yn gadarnhaol ynghylch cyflogi a chadw pobl anabl. Rydym yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymrwymo i warantu cyfweliad i bobl ag anableddau os ydynt yn bodloni’r gofynion hanfodol ar gyfer y swydd.The logo for EMBRACE - Our disability workplace equality network
  • Rhwydwaith anabledd i staff yn y Senedd, sy'n darparu cefnogaeth anffurfiol gan gymheiriaid a chyngor ar amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb. Mae'r rhwydwaith hefyd yn eiriol dros wella cyfleoedd datblygu gyrfa a dilyniant gyrfa, ac yn cynghori ar sut y gallai polisïau newydd effeithio ar staff ag anableddau, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg.
  • Mae'r tîm Iechyd Galwedigaethol yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i gynorthwyo gweithwyr i reoli eu hiechyd a'u llesiant. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo staff sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnodau o absenoldeb, a gwasanaethau cwnsela a chymorth, drwy'r Rhaglen Cymorth i Gyflogeion.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am weithio i Gomisiwn y Senedd a chael gwybodaeth am ein newyddion diweddaraf a'n cyfleoedd yma:

https://senedd.cymru/comisiwn/gweithio-i-gomisiwn-y-senedd/

 

[1] Senedd Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl. Mae’r Senedd, fel y’i gelwir, yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

[2] SCOPE a'r Arolwg Adnoddau Teulu 2019 i 2020.