Blog Gwadd - Macmillan a'r ymchwiliad i'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Roedd Macmillan Cymru yn falch iawn o gael gweithio gyda thîm allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiweddar i gefnogi ei grwpiau ffocws i bobl yr effeithir arnynt gan ganser. Roedd y grwpiau yn rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Cynulliad Cenedlaethol i’r cynnydd a wnaed ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2012. Mae'r cynllun yn nodi sawl uchelgais ac ymrwymiad ar gyfer trin canser yng Nghymru, gan gynnwys cefnogi diagnosis cynnar, gofal sy'n seiliedig ar anghenion unigol pobl, a sicrhau cyfraddau goroesi sydd gyda’r gorau yn Ewrop. Mae’n ddwy flynedd ers cyhoeddi'r cynllun bellach, ac mae Macmillan Cymru yn croesawu'r ymchwiliad; roedd yn bleser ganddo gynorthwyo tîm y Cynulliad i drefnu'r grwpiau ffocws gyda phobl yr effeithir arnynt gan ganser. Yn hyn o beth, cynhaliwyd sesiynau rhanbarthol yng Nghaerdydd, Llandrindod, Tredegar Newydd, Llandrillo Rhos ac Abertawe, gyda grŵp ffocws yn y Senedd ganol Mai ar gyfer pobl sy'n byw gyda chanser ac ar ôl canser. Yn yr ymchwiliad hwn, mae'n bwysig i Macmillan Cymru fod pobl sy'n gwneud penderfyniadau yn clywed barn pobl y mae canser wedi effeithio arnynt yn ogystal â barn gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, elusennau, ac ystadegwyr. Roedd y grwpiau ffocws yn gyfle gwych i Aelodau Cynulliad glywed sut beth yw byw gyda chanser yng Nghymru mewn gwirionedd, beth sy'n gweithio'n dda a lle mae modd gwella pethau. Daeth nifer o themâu i'r amlwg yn y grwpiau ffocws. Dyma rhai ohonynt: pwysigrwydd diagnosis cynnar; asesiad cyfannol o anghenion cleifion canser, sy’n cynnwys anghenion ariannol, emosiynol ac ymarferol; a chynllun gofal ysgrifenedig. Tynnwyd sylw hefyd at bwysigrwydd pennu gweithiwr allweddol i gleifion yn ystod eu triniaeth, fel bod ganddynt berson cyswllt ar gyfer unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd ganddynt. Yn olaf, pwysleisiodd y grwpiau bwysigrwydd ôl-ofal, gan y bydd gan nifer o gleifion canser broblemau iechyd tymor hir neu dymor byr o ganlyniad i'w triniaeth, megis lludded, lymffoedema neu broblemau o ran bwyta. Mae dros 120,000 o bobl yn byw gyda chanser neu ar ôl canser yng Nghymru ar hyn o bryd, felly mae’r ymchwiliad hwn yn gyfle pwysig i fesur y cynnydd a wnaed o ran gweithredu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser a gynlluniwyd i'w cefnogi. Rydym yn gobeithio y bydd yr Aelodau yn cadw mewn cof sylwadau’r grwpiau ffocws cyn iddynt ofyn eu cwestiynau yn y sesiwn dystiolaeth lafar yn yr ymchwiliad ddydd Iau 12 Mehefin.