Cryfhau ein democratiaeth: eich cyfle i ddweud eich dweud

Cyhoeddwyd 09/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/03/2018

Post gwestai gan Helen Mary Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Academi Morgan Fe ddylwn i ddatgan buddiant ar lefel bersonol. Roeddwn i’n aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol am 12 mlynedd rhwng 1999 a 2011, felly mae gen i farn gref am sut y mae ein Cynulliad yn gweithio, a sut y gallai fod yn fwy effeithiol. Ond nid fy marn i sy’n cyfrif yma. Mae 12 Mawrth yn un o amryw gyfleoedd i bawb yng Nghymru edrych ar y newidiadau sy’n cael eu rhoi gerbron a rhannu eu barn. Mae tipyn o sylw wedi bod yn y cyfryngau i rai o gynigion y Panel Arbenigol, gan gynnwys cynyddu nifer yr Aelodau, newid y ffordd yr ydym yn eu hethol, newid ffiniau etholaethau i wella cynrychiolaeth, a gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed. Mae’r rhain yn faterion pwysig iawn, ond hoffwn dynnu sylw at ddau fater arall y mae’r ymgynghoriad yn ymdrin â nhw. Yn etholiad cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, defnyddiodd Llafur a Phlaid Cymru, y ddwy blaid fwyaf a etholwyd, weithdrefnau gweithredu cadarnhaol gwahanol i sicrhau y cafodd menywod eu dethol mewn seddi enilladwy. Nid oedd yn hawdd i’r naill blaid wneud hyn. O ganlyniad, etholwyd cyfran fawr o fenywod, ac yn 2003, cafwyd y senedd gyntaf yn y byd gorllewinol â chydbwysedd o fenywod a dynion. Yn y senedd gytbwys hon – a fu’n destun astudiaethau academaidd niferus – roedd awyrgylch gwleidyddol tra gwahanol, gydag ymgais i weithio mwy drwy gonsensws, a rhoi sylw dyledus i faterion sy’n aml yn mynd ar goll, fel hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau plant. Ers hynny, rydym wedi gweld dirywiad yng nghanran y menywod sy’n cael eu hethol i’r Cynulliad. Mae’r Panel Arbenigol yn awgrymu mesurau i atal y dirywiad hwn, gan gynnwys deddfu ar gyfer cwotâu cydraddoldeb a chaniatáu i bobl gael eu hethol drwy rannu swydd. Rwy’n credu bod angen ystyried hyn. Beth yw’ch barn chi? Yna, mae’r mater o bwy a ddylai fod yn gymwys i bleidleisio. Mae cryn drafodaeth wedi bod am y cynnig i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed. Mae cynnig diddorol arall wedi cael llai o sylw. Ar hyn o bryd, gall dinasyddion y DU, dinasyddion y Gymanwlad a dinasyddion aelod-wladwriaethau eraill yr UE sy’n byw yng Nghymru bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad. Wrth gwrs, nid ydym yn gwybod beth fydd statws dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd ar ôl ymadael â’r UE. Un ffordd syml o ddatrys yr holl gymhlethdodau a allai godi yw caniatáu i bawb sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru gael pleidleisio, yn unol â chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer etholiadau cynghorau lleol. Mae hyn i’w weld yn deg i mi. Mae gan bawb sy’n byw yma, ni waeth beth yw ei statws technegol o ran dinasyddiaeth, ran yn yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru. Felly nid oes bosib y dylent gael dweud eu dweud am bwy sy’n rhedeg Cymru? Beth yw’ch barn chi? Hoffwn annog pawb i feddwl am y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn eu codi. Fe all dadl gyfansoddiadol o’r fath ymddangos yn go ddiflas. Ond yn ei hanfod, mae’n fater o sut rydym yn cael y bobl iawn i wneud y penderfyniadau iawn am faterion sy’n effeithio ar bawb, a chraffu ar y materion hyn: ein gwasanaeth iechyd, yr hyn y mae ein plant yn ei astudio yn yr ysgol, a’n hamgylchedd. Dyma’ch cyfle chi i gyfrannu at y ddadl ynghylch creu Senedd Cymru sy’n wirioneddol yn cynrychioli pob un ohonom ac yn gweithio ar ran pob un ohonom. Dewch i’r digwyddiad ar 12 Mawrth, dewch i un o’r cyfarfodydd eraill, neu ewch ar-lein i ymateb i’r ymgynghoriad yno. Mae’n gyfle i chi godi eich llais.
Mae Academi Morgan yn uned materion cyhoeddus a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe. Ein nod yw defnyddio ymchwil o’r radd flaenaf i lywio’r gwaith o ddatblygu polisi i fynd i’r afael â’r materion mwyaf heriol y mae Cymru a’r byd yn eu hwynebu heddiw. Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth rydym yn ei datblygu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn falch o fod yn cynnal y digwyddiad pwysig hwn ar 12 Mawrth i alluogi dinasyddion Abertawe a’r rhanbarth i ddweud eu dweud am y cynigion cyffrous y mae Panel Arbenigol y Cynulliad Cenedlaethol wedi’u cyflwyno i dyfu a chryfhau ein democratiaeth yma yng Nghymru.   Creu Senedd i Gymru