Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yn hyn

Cyhoeddwyd 03/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/11/2020

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd yn cynnal ymchwiliad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Pwyllgor yn casglu barn ynghylch pa mor dda y gweithredwyd y Ddeddf ers iddi gael ei phasio yn 2015, a sut y gellir ei gweithredu’n well yn y dyfodol.

Rydym am glywed yr hyn y mae pobl ifanc yn ei wybod o ran:

  • ymwybyddiaeth o’r Ddeddf.
  • profiadau pobl ifanc o sut y gweithredwyd y Ddeddf.
  • safbwyntiau ynghylch beth yw'r rhwystrau i weithredu'r Ddeddf.
  • sut y gellir ei gweithredu'n well yn y dyfodol.

Rydym wedi paratoi adnoddau ar gyfer ysgolion a grwpiau ieuenctid i ddarparu gweithgaredd i gasglu barn pobl ifanc.

Gallwch lawrlwytho’r pecyn adnoddau yma.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cyflwyniadau yw dydd Llun 7 Rhagfyr 2020.

Dysgwch ragor am yr ymchwiliad.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymchwiliad neu’r pecyn adnoddau.