Cyfleoedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

Cyhoeddwyd 30/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/07/2015

Yn ôl ym mis Tachwedd 2014 penderfynodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal ymchwiliad i cyfloedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed Gall fod yn anodd i bobl dros 50 oed ddod o hyd i swydd, yn enwedig un sy'n defnyddio eu holl sgiliau. Penderfynodd y Pwyllgor y bydden nhw yn edrych ar beth y gellir ei wneud am hyn gan fod pobl yng Nghymru, erbyn hyn, yn byw yn hirach ac mae pensiynau yn mynd yn llai. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweithio yn hirach ac erbyn hyn nid yw’n ofynnol i bobl ymddeol pan maent yn 60 neu 65 oed. Yn ogystal â gofyn i sefydliadau allanol, academyddion a’r cyhoedd beth oedden nhw’n ei feddwl drwy ofyn iddyn nhw ymateb yn ysgrifenedig, bu i’r Pwyllgor hefyd ymweld â sefydliadau cynrychioladol i drafod yr ymchwiliad hefo nhw. Bu i’r Pwyllgor ymweld ag aelodau staff o John Lewis Caerdydd, NIACE Cymru, Working Links, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, TUC Cymru a Chyngor Sir Benfro ar 12 Chwefror 2015. Cynhaliwyd trafodaethau o gwmpas y rhwystrau mae pobl dros 50 oed yn eu hwynebu wrth chwilio am swydd newydd, oes unrhyw stereoteipiau am gyflogaeth i bobl dros 50 oed, sut y gallwn ddod i’r afael â rhain a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi a hyrwyddo cyflogaeth i bobl dros 50 oed. Rhai o’r rhwystrau trafodwyd yn ystod yr ymweliadau hyn oedd y diffyg cyllid ar gyfer cyfleoedd hyfforddiant a diffyg pethau fel sgiliau TGCh. Gallwch ddarllen mwy am y trafodaethau hyn ar dudalen y Pwyllgor yma. Dyma Rhun Ap Iorwerth AC yn dweud wrthym am drafodaethau hefo Staff Adnoddau Dynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. https://www.youtube.com/watch?v=mcdrIWw39Ds Yn ogystal ag ymweld â’r sefydliadau cynrychioladol hyn bu i’r Pwyllgor hefyd siarad hefo unigolion yn ystod eu cyfarfodydd yn y Senedd, gan gynnwys swyddfa’r comisiynydd pobl hŷn Cymru a chynrychiolwyr o Age Cymru a Prime Cymru. Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi eu hadroddiad sydd yn cynnwys argymhellion ar bethau mae’r Pwyllgor yn meddwl dylai Llywodraeth Cymru eu gwneud  i’w gwneud yn haws i bobl dros 50 oed ddod o hyd i waith. Un o’r pethau mae’r Pwyllgor wedi ei argymell i Lywodraeth Cymru yw eu bod yn cynnal ymgyrch ‘Positif Am Oed’ i annog cyflogwyr i gyflogi pobl dros 50 oed. Yn ogystal â hyn ddylai Llywodraeth Cymru gael ymgyrch a fydd yn cynyddu nifer y lleoliadau gwaith a phrentisiaethau ar gyfer pobl dros 50 oed. Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu strategaeth sgiliau ar gyfer pobl dros 50 oed sy'n nodi sut y bydd yn helpu'r bobl hynny i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael swydd. Mae’n bosib i chi weld yr adroddiad llawn neu grynodeb o’r adroddiad yma a gallwch weld sylw yn y wasg o’r lansiad adroddiad wrth clicio ar y lluniau isod. BBC NEWS# ITV NEWS GUARDIAN Bydd y Pwyllgor yn siarad hefo’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg yn ystod tymor yr hydref i ofyn beth fydd hi yn eu gwneud am yr argymhellion yn yr adroddiad. Am fwy o wybodaeth dilynwch @SeneddBusnes.