Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Llysgennad ar gyfer Slate

Cyhoeddwyd 02/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/12/2015

Yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o rannu gwybodaeth mewn ffordd gyffrous ac arloesol. Eleni, dechreuom ddefnyddio rhaglen o'r enw Slate (gan Adobe) i greu crynodebau o'r adroddiadau a lunnir gan ein pwyllgorau. Mae ein deunydd ar Slate wedi bod yn llwyddiannus iawn - yn gymaint felly nes i Adobe ein gwneud ni'n Llysgennad ar gyfer Slate! Alcohol slate screenshot Beth yw Slate? Platfform sy'n galluogi sefydliadau i greu a rhannu adroddiadau, gwybodaeth a chyflwyniadau rhyngweithiol yw Slate. Mae ganddo ryngwyneb hygyrch ac mae modd ei ddefnyddio ar sawl platfform. Mae'r Cynulliad wedi defnyddio Slate i rannu gwaith helaeth a chymhleth pwyllgorau'r Cynulliad mewn fformat difyr sy'n hawdd ei ddefnyddio.   Ombwdsmon slate screenshotLlwyddiant Slate Yn dilyn yr ymchwiliad diweddar i Gamddefnyddio Alcohol a Sylweddau yng Nghymru, roedd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad am rannu ei ganfyddiadau. Defnyddiodd y Cynulliad Slate i greu crynodeb o waith y pwyllgor. Gan ddefnyddio delweddau trawiadol a chynnwys addysgiadol, crëwyd adroddiad amlblatfform a chanddo ryngwyneb cyfeillgar. "Mae'n anhygoel gweld y pethau gwych y mae pobl (fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru) yn eu gwneud gyda'r adnodd" - Tîm Rhaglen Slate Bellach, mae Slate wedi ei ddefnyddio i gyflwyno canfyddiadau nifer o bwyllgorau'r Cynulliad gan gynnwys ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid a oedd yn ystyried a ddylai'r Ombwdsmon gael rhagor o bwerau ac ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i sut y gellir lleihau tlodi yng Nghymru.   Dysgwch ragor am waith pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.