Digwyddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Lleol - Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref

Cyhoeddwyd 05/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2013

Yn ôl ym mis Chwefror eleni bu i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Lleol drafod gydag nifer o aelodau o’r cyhoedd o bob rhan o Gymru am ei ymchwiliad i addasiadau yn y cartref yn ystod digwyddiad yng Nghanolfan y Mileniwm. Ar ddydd Iau 27 Mehefin 2013, gwahoddwyd yr un unigolion i gyfarfod â’r Pwyllgor unwaith eto i drafod yr argymhellion sydd nawr wedi’u drafftio i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr ymchwiliad. Cafodd cyfranogwyr y cyfle i drafod yr argymhellion drafft gydag Aelodau Cynulliad cyn trafod materion ehangach gydag Aelodau yn unigol. Digwyddiad Addasiadau yn y cartref Dywedodd John Redmond, cynrychiolydd o Anabledd Cymru a Grŵp Ymwybyddiaeth o Anabledd, Cymdeithas Tai Taf: “Roedd y digwyddiad yr un mor bleserus i’w fynychu â’r cyntaf, yn gyfle i gyfarfod yr un pobl o’r digwyddiad yna, wedi’i gynnal mewn awyrgylch ymlaciol – cafodd pob un ohonom yr amser i rannu ein sylwadau a gwneud awgrymiadau addas i’w cynnwys yn yr adroddiad gorffenedig. Mae mynychu’r digwyddiadau hyn, yr wyf yn teimlo, yn fuddiol i gymunedau yn ogystal ag unigolion, gan bod eraill yn dysgu am pam y maent yn cael eu cynnal ac yn cael eu hannog i fynychu digwyddiadau yn y dyfodol sy’n cael eu cynnal gan y Cynulliad.” Mae’r trafodaethau yn ystod y digwyddiad wedi rhoi pethau i’r Pwyllgor eu hystyried o ran yr argymhellion cyn cwblhau yr adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Hoffwn ddiolch i’r holl gyfranogwyr a fynychodd y digwyddiad ac am eu holl gyfraniadau yn ystod yr ymchwiliad.