Diwrnod cenedlaethol ‘dod allan’

Cyhoeddwyd 11/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/10/2020

Blog gan Charley Oliver-Holland, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru

A minnau’n 13 oed ac yn ansicr am y bywyd o’m cwmpas, roedd bywyd yn anodd. Ar ddiwrnod cenedlaethol ‘dod allan’ yn 2016, penderfynais ddod allan fy hun. Yn fy mhen, roedd yn beth enfawr. Ro’n i’n teimlo fy mod i’n wahanol i bawb o’m cwmpas ac na fyddai unrhyw un yn fy nerbyn i am garu’r rhai o’r un rhyw â fy hun. Rydych chi’n clywed yn ddiddiwedd fel plentyn am ystrydebau gwrywaidd a benywaidd mewn chwedlau tylwyth teg, sy’n gwneud y dewis o ddod allan gryn dipyn yn anoddach. Ond i mi yn bersonol, mae dod allan yn gadael i mi fod yn fi hun ac rwyf nawr yn byw 100% fel fi, waeth beth mae unrhyw un arall yn ei feddwl.  

Charley Oliver-Holland, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru

Gall diwrnod cenedlaethol ‘dod allan’ fod yn gyfle gwych i rai sydd heb ddod allan i fynegi pwy ydyn nhw. Ond peidiwch â gadael i hynny eich gorfodi i ddweud gwybodaeth wrth bobl a allai’ch gwneud chi i deimlo mewn perygl. Mae dod allan yn ddewis personol y dylech ei wneud yn eich amser eich hun. Does dim angen i chi deimlo bod diwrnod penodol o’r flwyddyn yn rheidrwydd i ddweud wrth bawb rywbeth nad ydych chi’n barod i’w ddatgelu. Mae yna nifer o wasanaethau cwnsela ar gael i rai sy’n cael trafferth gyda’r materion hyn, a pheidiwch â bod ofn eu defnyddio, waeth pa mor fawr neu fach yw’ch problem. Mae dod allan yn anodd, mae wynebu gwahaniaethu yn anodd, mae bod yn LHDT+ mewn byd nad yw bob amser yn eich derbyn chi yn anodd.  Rydw i yma i ddweud fy stori bersonol, ond peidiwch byth â gadael i stori person arall ddiffinio eich stori chi. Mae pob un ohonom yn unigryw, ac mae’n straeon ni i gyd yn ddilys.  

Mae syrthio mewn cariad yn beth rhyfedd. Yn eich arddegau, rydych chi’n dechrau archwilio eich hun a dod o hyd i’ch llwybr unigol mewn bywyd. Roeddwn i’n gwybod o oed ifanc fy mod i’n hoffi merched, ond, a minnau’n byw mewn pentref bach ceidwadol, roeddwn i hefyd yn gwybod nad oedd hynny’n iawn. Fel plentyn, cefais fy mwlio, fel sy’n digwydd yn aml i’r rhai sy’n cael eu hystyried yn wahanol yn ystrydebol. Roeddwn i’n swil, dros fy mhwysau ac yn lesbian. Fe ddes i allan yn gyntaf i grŵp bach o ffrindiau, a oedd yn hollol iawn gyda fy rhywioldeb. Yna, daeth yn amser i mi ddweud wrth fy rhieni. Ysgrifennais lythyr emosiynol iawn, rhuthro lawr y grisiau a’i guddio ym mag llaw fy mam. Yr ateb byr ac annwyl a gefais oedd ‘dwi’n gwybod, dwi’n dy garu di’, a oedd yn bwysau enfawr oddi ar fy ysgwyddau. Rwy’n hynod lwcus ac yn ddiolchgar o gael ffrindiau a theulu cefnogol sy’n gadael i mi fod yn fi.

Roedd yr ysgol yn stori wahanol, fe wynebais amser anodd oherwydd fy rhywioldeb, ond roeddwn i’n lwcus i gael pobl yno i mi. Er hynny, nid oedd yna rwydwaith cymorth penodol yn fy ysgol. Roedd hyn yn aml yn gwneud i mi deimlo’n unig ac ynysig. Ond, ni wnaeth y teimladau hynny gael effaith negyddol arnaf, yn hytrach fe wnaeth hynny fy sbarduno i newid pethau. Penderfynais greu clwb cymorth LHDT+ yn fy ysgol, er mwyn i’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc yn fy ardal deimlo’n dda am eu hunain. O weld y llawenydd a roddodd hyn i grŵp bach o bobl, cefais fy ysgogi i wneud mwy.

Ers hynny, rwyf wedi cadeirio fy nghyngor ieuenctid, wedi siarad yn Senedd Cymru a Senedd y DU, wedi cynrychioli Cymru ar lefel y DU yn brwydro i newid cyfreithiau troseddau cyllyll, wedi ennill gwobrau am wirfoddoli ac yn ddiweddar wedi bod ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau amrywiaeth cenedlaethol fel model rôl LHDT+.

Charley yn siarad yn y Senedd

Mae creu newid i bobl eraill yn gwneud i mi deimlo efallai y bydd y genhedlaeth o bobl ifanc yn wynebu llai o galedi. Gobeithio, un diwrnod, na fydd unrhyw un yn teimlo fel y gwnes i fel plentyn 13 oed a oedd ar goll ac yn unig. Gobeithio, gyda’n gilydd, y gallwn ni sicrhau cefnogaeth, rhannu cariad a rhoi addysg. Bydd gwahaniaethu o hyd yn broblem, ond gobeithio bydd fy ngwaith yn eich ysbrydoli i dreulio’ch amser yn creu newid cadarnhaol. Dydw i ddim yn swil nac yn ofni pethau erbyn hyn. Rwy’n hyderus ac yn treulio bob dydd yn rhannu cariad a phositifrwydd i eraill. Weithiau bydd sylwadau creulon yn fy mhoeni i, ond rydw i bob amser yn cofio nad oes unrhyw beth o’i le â phwy ydw i ac nad yw fy rhywioldeb yn fy niffinio i, dim ond rhan o pwy ydw i yw hynny.  

Y brif neges yr hoffwn ei hanfon atoch i gyd yw ei bod hi’n iawn i fod yn wahanol. Hefyd, mae’n beth gwych os ydych chi’n teimlo eich bod yn gallu dod allan, ond os na allwch wneud hynny, nid yw’n eich gwneud chi’n llai anhygoel o gwbl! Os ydych chi’n wynebu gwahaniaethu am fod yn chi eich hun, nid yw hynny bob amser yn gorfod bod yn beth negyddol. Efallai eich bod chi’n sylweddoli o bosibl bod y person hwnnw’n teimlo’n ansicr ei hun ac nad chi yw’r broblem. Yn lle bod yn ddig, ceisiwch ymladd dros yr hyn rydych chi’n ei gredu ynddo a helpu i wneud gwahaniaeth. Boed hynny yn yr ysgol, neu’n rhyngwladol, fel allwch chi sicrhau newid. Rydych chi’n ddilys, yn deilwng, a pheidiwch byth â gadael i unrhyw un ddweud wrthych bod eich rhywioldeb neu hunaniaeth ryw yn eich gwneud chi’n unrhyw beth llai na gwych!