Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth, 2 Ebrill 2015

Cyhoeddwyd 02/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/04/2015

Cyhoeddodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 2 Ebrill yn Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd er mwyn tynnu sylw at yr angen i wella ansawdd bywyd y plant a’r oedolion hynny y mae awtistiaeth yn effeithio arnynt. Mae'r gair 'awtistiaeth' yn cael ei ddefnyddio yma i ddisgrifio pob diagnosis ar y sbectrwm awtistig, gan gynnwys awtistiaeth glasurol, syndrom Asperger ac awtistiaeth gweithredu lefel uchel. [youtube https://www.youtube.com/watch?v=d4G0HTIUBlI&w=560&h=315] Yn y DU, mae awtistiaeth ar tua 700,000 o bobl - mae hynny'n fwy nag 1 o bob 100. O gynnwys eu teuluoedd, mae awtistiaeth yn effeithio ar fywydau bob dydd 2.7 miliwn o bobl. Am ragor o wybodaeth, darllenwch How many people have autism spectrum disorders? (Saesneg yn unig) I ddysgu mwy am Awtistiaeth ewch i Wefan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o fod wedi ennill Gwobr Mynediad y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol. Gwobr am arfer da o ran cynllunio adeiladau a chyfleusterau mewn modd sy'n ystyried anghenion pobl ag awtistiaeth, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.   Mae'n dangos bod y cyfleusterau'n ystyriol o bobl ag awtistiaeth, a bod ymrwymiad i sicrhau eu bod yn hygyrch i'r bobl hyn. Gweler y datganiad i'r wasg drwy glicio yma. Dyma rai o'r pethau y mae'r Cynulliad wedi eu gwneud i gael achrediad:
  • Creu adran ar ei Wefan yn benodol ar gyfer ymwelwyr ag awtistiaeth.  Yn yr adran hon, mae lincs i wybodaeth mewn fformatau gwahanol am adnoddau pwrpasol.
  • Sefydlu mannau tawel penodol i bobl ag awtistiaeth gael gorffwys a bwrw straen ynddynt.
  • Sicrhau bod staff perthnasol yn cael hyfforddiant hyder anabledd, sy'n cynnwys adran ar awtistiaeth.
  • Nodi 28 o Hyrwyddwyr Awtistiaeth ledled y sefydliad, gan gynnwys Diogelwch a Chyswllt Cyntaf, sydd ar hyn o bryd yn ymgymryd â hyfforddiant.
  • Sefydlu cysylltiadau â grwpiau lleol y Gymdeithas Awtistiaeth a chasglu adborth ganddynt.
  • Creu ffurflen adborth, er mwyn cael adborth cyson gan ymwelwyr ag awtistiaeth.
Ydych chi'n bwriadu ymweld â'r Cynulliad? Edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwch â ni dros y ffôn ar 0300 200 6565, neu anfonwch neges e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru. World Autism Day logo