Grwpiau Ffocws i Ymchwiliad Presenoldeb ac Ymddygiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Cyhoeddwyd 27/02/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/02/2013
Dros y mis diwethaf, mae’r tîm Allgymorth wedi cynnal 18 grwpiau ffocws gydag ysgolion a sefydliadau dros Gymru ar y mater o bresenoldeb ac ymddygiad.
Rhoddwyd cyfle i blant a phobl ifanc o oedran 9 i 21 mlynedd i drafod eu profiadau a’r materion maent yn credu oedd yn fwyaf pwysig wrth ystyried presenoldeb ac ymddygiad mewn ysgolion, megis strwythur a chynnwys gwersi, bwlio ar ddarpariaeth sydd ar gael i ddisgyblion, a’r angen i gynnwys pobl ifanc ymhellach yn y broses o wneud penderfyniadau addysgol.
Diolchodd Elizabeth Stokes, Rheolwr rhaglen Dysgu am Oes Llamau, y tîm Allgymorth a defnyddwyr y gwasanaeth, gan ddweud eu bod wedi “ymateb yn feddylgar ac ystyriol gan gynnig golwg werthfawr ar y maes i'r ymchwilwyr”.
Byddai’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn hoffi rhoi diolch i phob cyfranogwr, ysgol a sefydliad a chyfrannodd i’r Ymchwiliad hyn.
Am fanylion pellach ynglŷn ag Ymchwiliad Presenoldeb ac Ymddygiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, cliciwch yma:
http://www.senedd.assemblywales.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=5218