Gwleidyddion Cymru yn y dyfodol yn codi llais dros bobl ifanc yn Ffug Etholiad y Senedd

Cyhoeddwyd 09/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/03/2021   |   Amser darllen munudau

Fe wnaeth pum grŵp o bleidleiswyr ifanc angerddol o bob rhan o Gymru herio gwleidyddion y Senedd mewn ffug etholiad rhithwir. 

Yn y digwyddiad ar-lein ‘Dewch i Ddadlau: Ffug Etholiad i Bobl Ifanc’, gwyliodd 100 o bobl yn fyw wrth i’r Cadeirydd, Teleri Glyn Jones, groesholi’r pleidiau i ddarganfod sut y bydden nhw’n newid Cymru er gwell.

Roedd y digwyddiad yn rhan o Wythnos Pleidlais 16 y Senedd ym mis Chwefror 2021.

Yr Her

Yr her i'r grwpiau o bobl ifanc oedd ffurfio pum plaid wleidyddol ffuglennol a chyflwyno'r materion sy'n bwysig iddynt yn y digwyddiad a gynhaliwyd gan y Senedd ar 26 Chwefror. Mae’r recordiad llawn ar gael i’w wylio yma.

Cyflwynodd pob plaid yr hyn sydd bwysicaf iddynt a sut maent yn meddwl y byddai eu pleidiau'n gwella Cymru, yn y gobaith o berswadio'r gynulleidfa i bleidleisio dros eu plaid.

Y pleidiau oedd:


Cymru Gyfartal
Fforwm Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot

Prif bynciau: addysg, iechyd meddwl, prydau ysgol am ddim, cynhyrchion misglwyf am ddim

 

Dreigiau ArdudwyGwasanaeth Ieuenctid Gwynedd.

Prif bynciau: achub mynydd, iechyd meddwl, clybiau ieuenctid

 

Creative Cymru GreadigolCelfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru

Prif bynciau: cyllid y celfyddydau, yr amgylchedd, yr economi, cydraddoldeb i bawb

 

Advanced!Ysgol Gyfun Treorci

Prif bynciau: newid hinsawdd, addysg, brwydrau economaidd

 

MTBWYFFforwm Ieuenctid Ehangach Bwrdeistref Merthyr Tudful
Prif bynciau: hawliau plant, cydraddoldeb, addysg, iechyd meddwl

Gyda’r nos, fe wnaeth pobl ifanc o bob rhan o Gymru gyflwyno cwestiynau i'r panel cyn bwrw eu pleidlais.

Gyda 41% o’r bleidlais, coronwyd Cymru Gyfartal o Fforwm Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot fel y blaid fuddugol.

(Cymru Gyfartal: (O'r chwith i'r dde) Lola Thair, Bethan Thomas, Bonnie Connor, Isabel Williams, Stella Orrin)

Defnyddia Dy Lais

Fe wnaeth y grŵp o bobl ifanc 14-16 oed o Fforwm Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot benderfynu cyflwyno eu plaid gyda'r gobaith y byddai'r digwyddiad yn helpu i leisio'u barn.


"Fel person ifanc, rwy'n aml yn teimlo bod oedolion yn siarad dros fy mhen. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i mi leisio fy marn go iawn. Byddwn yn annog pob person ifanc i gymryd rhan mewn digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol. Roedd yn brofiad gwych."

- Isabel Williams

Roedd eu prif bryderon ynghylch addysg, iechyd meddwl, prydau ysgol am ddim a chynhyrchion misglwyf yn cynnwys argymhellion fel gwahardd plastig untro yng Nghymru, a lleihau cost cerbydau trydan wrth gyflenwi mwy o orsafoedd gwefru.

"Rydym wedi cael cefnogaeth gan lawer o bobl yn ein hardal leol, gan ein hysgolion, ein gwasanaeth ieuenctid a hyd yn oed ein Haelod Senedd lleol" - Lola Thair.

Mae Bonnie Connor, 16, sydd ymhlith llawer o bobl ifanc fel pleidleisiwr tro cyntaf yng Nghymru, yn dweud bod angen gwneud pobl ifanc yn ymwybodol y gall eu pleidlais wneud gwahaniaeth.

"Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn sylweddoli bod yr oedran pleidleisio wedi'i ostwng am reswm, sef sicrhau bod pobl ifanc yn gallu lleisio’u barn."

Mae'r Fforwm Ieuenctid, sydd wedi'i leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn rhoi llwyfan ar gyfer grymuso pobl ifanc ac yn cwrdd â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn lleol i helpu i wella'r ardal y maen nhw'n byw ynddi, iddyn nhw a chenedlaethau'r dyfodol. 

"Roeddem i gyd mor falch ac yn teimlo rhyddhad, nid oherwydd bod pobl wedi pleidleisio drosom ni, ond wedi pleidleisio dros ein polisïau." - Bethan Thomas.


"Mae gwybod bod cymaint o bobl ifanc eraill sydd eisiau cymryd rhan, ac sydd â barn gref am yr hyn sy'n bwysig i'n cenhedlaeth, yn fy ngwneud i’n obeithiol am y dyfodol."

–  Stella Orrin

Mae Eich Llais yn Bwysig

Os wyt ti dros 16 mlwydd oed, galli di ddefnyddio dy lais ar 6 Mai 2021 drwy bleidleisio yn Etholiad y Senedd.

Defnyddia dy lais, a chofrestra i bleidleisio heddiw.

Cofrestru i bleidleisio

 

Eisiau dysgu mwy am y Senedd?

Archebwch un o'n sesiynau addysg ar-lein rhad ac am ddim.