Newid enw’r Cynulliad a phleidlais i bobl 16 oed: Mae’r Bil Senedd ac Etholiadau wedi cyrraedd Cyfnod 3

Cyhoeddwyd 13/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/11/2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

13 Tachwedd 2019

Heddiw mae ein Haelodau yn cynnal dadl ar Fil  Senedd ac Etholiadau (Cymru), a allai gyflwyno pleidleisiau yn 16 oed yng Nghymru a newid enw'r Cynulliad, wrth iddo gyrraedd Cyfnod 3 ei hynt i ddod yn gyfraith.

Ond beth yw ystyr hynny? Beth fydd yn digwydd nesaf?

O ble y mae cyfraith newydd yn dod?

Mae pob cyfraith newydd yn dechrau fel syniad i newid sut y mae rhywbeth yn gweithio neu i wneud rhywbeth yn well. Pan fydd cyfraith yn dechrau ei thaith, fe'i gelwir yn Fil - mae'n fersiwn ddrafft o'r gyfraith.

Sut y mae Bil yn dod yn Ddeddf?  

Rhaid i Fil fynd drwy bedwar cyfnod yn y Cynulliad Cenedlaethol a chael Cydsyniad Brenhinol cyn dod yn Ddeddf Cynulliad, sef yn gyfraith newydd i Gymru.

Taith Bill: Cyfnod 1

Mae Aelodau'r Cynulliad rydych chi yn eu hethol yn penderfynu a oes angen y gyfraith newydd ar Gymru.

Mae'r Bil yn dechrau ei daith gyda phwyllgor. Mae pwyllgorau yn grwpiau bach o Aelodau Cynulliad sy’n edrych ar bynciau penodol.Mae'n bosibl y bydd mwy nag un pwyllgor yn gweithio ar y Bil cyn iddo ddod i'r Cyfarfod Llawn.

Mae'r pwyllgor sy'n edrych ar y Bil yn cwrdd ag arbenigwyr pwnc, sy'n helpu i lunio'r Bil. Efallai y bydd y pwyllgor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, lle gallech roi eich barn.

Mae rhestr o ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd i’w gweld yn www.cynulliad.cymru/ymgynghoriadau.

Mae Cyfnod 1 yn caniatáu i'r pwyllgor gasglu tystiolaeth gan bawb y maen nhw'n siarad â nhw, ac maent yn cynnwys y dystiolaeth mewn adroddiad. Bydd yr adroddiad hwn yn dweud a yw'r pwyllgor yn cytuno â phrif nod y Bil. Gallai hefyd awgrymu newidiadau i eiriad y Bil. Y

n olaf, mae Aelodau'r Cynulliad yn cynnal dadleuon yn y Cyfarfod Llawn ar yr holl adroddiadau a ysgrifennwyd am y Bil. Maent yn pleidleisio i benderfynu a oes angen y gyfraith newydd hon ar Gymru. Os bydd y mwyafrif o Aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio 'na', mae'r Bil yn dod i ben yn y cyfnod hwn.

Yng Nghyfnod 1:Mmae Aelodau'r Cynulliad yn edrych ar y pethau sylfaenol. Maent yn cwrdd ac yn penderfynu, mewn egwyddor, a oes angen y gyfraith newydd hon ar Gymru.

- Mae un neu fwy o bwyllgorau yn edrych ar y Bil ac yn ysgrifennu adroddiadau Cyfnod 1.
- Mae Aelodau'r Cynulliad yn cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn am bob adroddiad sydd wedi'i ysgrifennu am y Bil.
- Mae Aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn i benderfynu a oes angen y Gyfraith newydd ar Gymru.

Taith Bil: Cyfnod 2

Mae Aelodau'r Cynulliad yn cyfarfod mewn pwyllgor.

Maent yn edrych ar y Bil, iac yn wneud newidiadau i'w eiriad. Gall pob Aelod Cynulliad adolygu'r Bil, ac awgrymu newidiadau. Efallai y byddant yn gweld ffordd y gallent ei wella. Efallai eu bod yn meddwl y byddai'n well pe bai Bil hefyd yn gwneud rhywbeth arall, neu ei fod yn gwneud gormod a bod angen iddo fod yn fwy penodol.

Mae pob newid y maent yn ei awgrymu yn welliant.

Mae'r pwyllgor sy'n gweithio ar y Bil yn edrych ar yr holl welliannau a awgrymwyd gan Aelodau'r Cynulliad. Maent yn cyfarfod ac yn trafod beth fyddai'r gwelliannau yn ei wneud i’r Bil, ac yn pleidleisio i benderfynu a ddylid eu cynnwys. Dim ond os yw mwyafrif aelodau'r pwyllgor yn pleidleisio y dylai gael ei gynnwys y bydd gwelliant yn cael ei gynnwys.

Yng Nghyfnod 2: Mae Aelodau'r Cynulliad yn llunio'r Bil. Mae grŵp bach o Aelodau'r Cynulliad yn cyfarfod fel pwyllgor ac yn edrych ar awgrymiadau i ddiwygio'r Bil.

- Gall pob Aelod Cynulliad awgrymu gwelliant i'r Bil.
- Mae'r pwyllgor sy'n gweithio ar y Bil yn edrych ar yr hyn y bydd pob gwelliant yn ei wneud i'r Bil.
- Mae aelodau'r pwyllgor yn pleidleisio ar ba ddiwygiadau y dylid eu cynnwys yn y Bil.

Taith Bil: Cyfnod 3

Mae Aelodau'r Cynulliad yn casglu yn y Cyfarfod Llawn. Y Cyfarfod Llawn yw’r cyfarfod sy’n cynnwys yr holl Aelodau Cynulliad yn y Siambr, y siambr trafod. Maent yn edrych ar y Bil, yn adolygu awgrymiadau ac yn gwneud newidiadau terfynol i'w eiriad. Gall pob Aelod Cynulliad adolygu'r Bil, ac awgrymu gwelliannau.

Yn ystod y Cyfarfod Llawn, gall pob Aelod Cynulliad a awgrymodd welliant esbonio ei welliant, a rhoi ei resymau dros yr awgrym. Gall Aelodau eraill y Cynulliad ddweud a ydynt yn cytuno â'r gwelliant arfaethedig. Mae'n bwysig bod pob Aelod Cynulliad sydd am siarad yn y Cyfarfod Llawn yn gallu dweud ei ddweud. Weithiau bydd angen gwneud rhagor o waith ar Fil.

Mae yna opsiwn i gynnal rhagor o ddadleuon ar y Bil ac i bleidleisio arnynt. Rydym yn galw'r cyfnodau ychwanegol hyn yn Gyfnod 3 Pellach, yn Gyfnod Adrodd ac yn Gyfnod Adrodd Pellach. Er hynny, nid yw'r rhan fwyaf o'r Biliau yn mynd drwy'r cyfnodau hyn. Âr ôl i bob Aelod Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn drafod a phleidleisio ar y gwelliant terfynol, mae geiriad y Bil wedi'i gwblhau.

Bellach mae gan y Bil ei eiriad terfynol ac mae'n barod i symud ymlaen i'w gyfnod olaf yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Yng Nghyfnod 3: Mae Aelodau'r Cynulliad yn mireinio'r Bil. Mae'r Bil yn mynd yn ôl i'r Siambr i Aelodau'r Cynulliad wneud newidiadau terfynol.

- Gall pob Aelod Cynulliad awgrymu gwelliant i’w drafod ac i ddadlau yn ei gylch yn y Cyfarfod Llawn.
- Gall Aelodau'r Cynulliad a gynigiodd welliant esbonio pam eu bod yn ei awgrymu.
- Mae Aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio ar ba welliannau y dylid eu cynnwys yn y Bil terfynol.

Taith Bil: Cyfnod 4

 Mae Aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn i gytuno ar eiriad terfynol y Bil. Ar ôl i’r Bil gyrraedd Cyfnod 4, mae ei eiriad yn derfynol. Ni all Aelodau'r Cynulliad ddiwygio'r Bil ymhellach. Yn ystod dadl Cyfnod 4, mae Aelodau'r Cynulliad yn edrych ar destun terfynol y Bil, ac yn penderfynu a ddylai ddod yn gyfraith newydd. Ar ôl y ddadl, maent yn pleidleisio - 'a ddylai'r Bil hwn ddod yn Ddeddf, sef yn gyfraith newydd i Gymru? Os bydd mwyafrif Aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio yn erbyn pasio'r Bil, mae'r Bil yn methu. Ni all unrhyw beth pellach ddigwydd gyda Bil unwaith y bydd wedi methu. Os bydd mwyafrif Aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio o blaid pasio'r Bil, yna mae wedi llwyddo ar ei hynt drwy'r Cynulliad Cenedlaethol. Gall fynd ymlaen i'w gyfnod terfynol i ddod yn gyfraith newydd (Deddf Cynulliad) - cyn belled nad oes unrhyw her gyfreithiol iddo.

Yng Nghyfnod 4: Mae Aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio’n derfynol ar y Bil. Mae Bil llwyddiannus yn cwblhau ei daith drwy'r Cynulliad Cenedlaethol

- Mae Aelodau'r Cynulliad yn trafod geiriad terfynol y Bil.
- Cynhelir pleidlais derfynol i gytuno ar eiriad terfynol y Bil.
- Os na fydd Bil yn pasio'r cyfnod hwn, mae'n methu.

Cydsyniad Brenhinol

Mae'r Frenhines yn rhoi Cydsyniad Brenhinol i'r Bil. Mae hwn yn gytundeb ffurfiol y gall y Bil ddod yn Ddeddf Cynulliad.

Er mwyn cyrraedd y cyfnod hwn, mae Aelodau'r Cynulliad wedi ysgrifennu’r Bil, craffu arno, ei ddiwygio a phleidleisio arno. Maent wedi siarad ag arbenigwyr ar y pwnc, ac efallai eich bod chi eich hun wedi cael dweud eich dweud, drwy ymateb i ymgynghoriad pwyllgor.

Mae'r Frenhines yn rhoi Cydsyniad Brenhinol i bob Bil sy'n mynd ar ei hynt yn llwyddiannus drwy'r pedwar cyfnod yn y Cynulliad Cenedlaethol. Cytundeb ffurfiol y gall y Bil ddod yn Ddeddf Cynulliad yw Cydsyniad Brenhinol. Rhaid i bob deddfwriaeth sylfaenol sy'n cael ei gwneud gan bob Senedd a Chynulliad yn y DU gael Cydsyniad Brenhinol.

Gallwch weld pa gyfreithiau a wnaed yng Nghymru ers 2016, a sut yr aed ati i’w gwneud drwy fynd i www.cynulliad.cymru/deddfau.

Cydsyniad Brenhinol: y cyfnod olaf ar y daith, pan fydd y Bil yn dod yn Ddeddf Cynulliad.

- Mae'r Frenhines yn rhoi Cydsyniad Brenhinol i'r Bil.
- Mae’r Bil yn dod yn Ddeddf Cynulliad