Pobl y Cynulliad: Annette Millett, Cymorth Tîm Pwyllgorau

Cyhoeddwyd 12/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/08/2014

Annette_original Fy swydd i o fewn y Cynulliad yw cefnogi Clercod a Dirprwy Glercod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy’n helpu i ddarparu cymorth a chyngor proffesiynol a diduedd i’r Pwyllgorau reoli’u busnes yn effeithiol, ac i’r is-adrannau polisi wrth ymdrin â Phwyllgorau. Rwy’n cynorthwyo’r Clercod i baratoi ar gyfer cyfarfodydd. Cyn diwrnod y cyfarfod, rwy’n paratoi’r ystafell bwyllgora ar gyfer trafodion ffurfiol y diwrnod canlynol. Ar ddiwrnod cyfarfodydd, fy swydd i yw cyfarfod y tystion a rhoi gwybodaeth iddynt cyn eu sesiynau cyflwyno tystiolaeth, gan sicrhau eu bod yn deall yn iawn sut i ddefnyddio’r offer cyfieithu a sut y bydd y cyfarfod yn rhedeg. Rwy’n cynorthwyo i reoli ymgynghoriadau cyhoeddus; casglu tystiolaeth ffurfiol ac anffurfiol; llunio a chyhoeddi allgynnyrch pwyllgorau (gan gynnwys adroddiadau); cyfathrebu gwaith pwyllgor yn ehangach; a chynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar ddeddfwriaeth.   Pobl y Cynulliad; cyfres fideo a blogio gan amryw o aelodau o staff yn egluro eu gwaith yn y Cynulliad.