Gorsaf Bleidleisio

Gorsaf Bleidleisio

Pum peth y mae angen i ti wybod am gofrestru i bleidleisio

Cyhoeddwyd 18/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae etholiad y Senedd yn digwydd ar 6 Mai. Os wyt ti’n 16 oed neu'n hŷn, gelli di bleidleisio yn etholiad y Senedd.

Drwy gofrestru i bleidleisio, ti’n sicrhau dy fod yn medru defnyddio dy lais ar ddiwrnod yr etholiad i lywio dyfodol Cymru.

Dyma bum peth y mae angen i ti wybod am sut i gofrestru i bleidleisio.

  1. Mae angen i gofrestru i bleidleisio mewn etholiad yng Nghymru. Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw canol nos, ddydd Llun 19 Ebrill.

  2. Mae’n gyflym ac yn hawdd cofrestru i bleidleisio. Gelli gofrestru ar-lein neu drwy'r post. Bydd rhaid i ti ateb y cwestiynau yma: ble rwyt ti’n byw, cenedligrwydd, dyddiad geni, enw llawn, cyfeiriad, rhif Yswiriant Gwladol (ond mae modd cofrestru os nad oes un gen ti).

    Os nad wyt yn medru rhoi dy rif Yswiriant Gwladol, bydd angen i ti esbonio pam. Fe allai hyn achosi oedi cyn i dy enw fod ar y gofrestr etholiadol. Os na elli ddod o hyd i dy rif Yswiriant Gwladol, gelli ddefnyddio gwasanaeth ymholiadau Cyllid a Thollau EM. Mae'n werth nodi na fydd Cyllid a Thollau EM yn dweud beth yw dy rif Yswiriant Gwladol dros y ffôn, bydd yn cael ei bostio ac yn cyrraedd cyn pen 15 diwrnod gwaith.

  3. Os wyt ti’n byw yng Nghymru, o ble bynnag rwyt ti’n dod, mae dy lais yn bwysig. Gelli gofrestru i bleidleisio os wyt ti’n ddinesydd cymhwysol o Brydain, Iwerddon neu’r Gymanwlad, yn ddinesydd o’r Undeb Ewropeaidd, neu’n ddinesydd tramor cymhwysol. Cael gwybod ym mha etholiadau y caiff bleidleisio.

  4. Ddim yn siŵr os wyt ti wedi cofrestru i bleidleisio o'r blaen? Gwiria gyda dy Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol. Dod o hyd i dy swyddfa leol.

  5. Angen newid dy enw neu gyfeiriad? Gelli ddiweddaru dy fanylion drwy ddefnyddio'r gwasanaeth 'Cofrestru i bleidleisio'. Bydd angen i ti gofrestru i bleidleisio gyda manylion newydd, hyd yn oed os wyt ti eisoes wedi cofrestru i bleidleisio.

Defnyddia dy lais, cofrestra i bleidleisio heddiw.

Mae mwy o wybodaeth am Etholiad y Senedd yma.